Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cadw'n brysur yr haf hwn

Felly dyna ni. Mae'r gwyliau haf hir wedi cyrraedd o'r diwedd ac mae gennych wythnosau o amser rhydd i'w llenwi. Felly pa un ai ydych chi'n mynd i ffwrdd ar eich gwyliau, yn gweithio neu'n chwilio am rywbeth i'w wneud sydd ychydig bach yn wahanol, edrychwch ar ein awgrymiadau am sut i wneud yr haf hwn yn haf arbennig.

Hwyl yn yr haul

Er y gall fod yn amhosib rhagweld sut fydd hi yn haf y DU ar brydiau, mae'n fwy na thebyg y byddwn yn gweld rhywfaint o haul ryw ben. Os byddwch yn treulio llawer o'ch amser y tu allan, neu'n torheulo yn y parc neu yn eich ardd gefn, sicrhewch eich bod yn gwybod sut i warchod eich croen.

Mae'r haf yn braf, ond slafio a wnaf

Mae llawer o bobl ifanc yn penderfynu anghofio am y gwyliau'n gyfan gwbl a gweithio dros yr haf. Hwyrach bod rhai ohonynt yn cynilo i fynd i'r brifysgol neu'r coleg, tra bo eraill yn hoffi'r syniad o gael rhywfaint mwy o arian yn eu poced neu'n eu cyfrif banc.

Os ydych eisiau gweithio ond heb ddod o hyd i swydd eto, nid yw'n rhy hwyr, ond bydd angen gwybod lle i chwilio.

Ar gyfer y rheiny ohonoch sydd eisoes yn gweithio, mae'n bosib y byddai'n ddefnyddiol i chi wybod beth yw eich hawliau cyflogaeth i sicrhau eich bod yn cael eich trin yn deg yn ystod oriau gwaith.

Disgwyl am ganlyniadau arholiadau

Os ydych wedi gorffen eich arholiadau'n ddiweddar, mae'n bosib eich bod yn cnoi eich ewinedd yn barod.

Hyd yn oed os ydych yn eithaf hyderus eich bod wedi gwneud yn dda, nid yw hi byth yn rhy gynnar i sicrhau eich bod yn gwybod beth i'w wneud os na chewch chi'r graddau yr oeddech yn eu disgwyl.

Os ydych yn gobeithio mynd i'r brifysgol, neu os ydych yn ystyried dilyn canllaw addysg bellach, cymerwch olwg ar ein canllawiau defnyddiol.

Sêl yr haf

Mae'r rhan fwyaf o siopau'n cael sêl mawr yn ystod yr haf, sy'n golygu ei bod yn amser gwych i gael bargen, neu i ddod o hyd i rywbeth am bris rhatach a chithau wedi bod yn ei chwennych ers tro.

Os ydych yn trefnu mynd i'ch canolfan siopa leol, dewch o hyd i sut i gyrraedd yno a gweld os allwch gael gostyngiad ar y trên neu ar y bws.

Os ydych yn siopa ar-lein, mynnwch wybod am y costau cudd a all gael eu hychwanegu at gost yr hyn yr ydych yn ei brynu.

Rhywbeth ychydig yn wahanol

Os nad oes gennych rywbeth i'w wneud dros yr haf, hwyrach yr hoffech wneud gweithgaredd yr ydych wedi bod eisiau'i wneud ers tro, ond nad ydych erioed wedi cael amser i'w wneud o'r blaen.

Beth am roi cynnig ar wahanol fathau o chwaraeon megis hwylfyrddio, rhwyfo neu tenis. Mae'r rhain i gyd yn chwaraeon awyr agored, felly mae'r haf yn amser gwych i roi cynnig arnynt. Hwyrach bod eich cyngor lleol yn cynnal dosbarthiadau a gweithgareddau arbennig yn ystod yr haf, neu holwch ble mae'ch clwb agosaf a ffoniwch nhw.

Os nad yw chwaraeon at eich dant chi, beth am fynd i amgueddfa neu oriel gelf. Bydd llawer ohonynt yn codi ffioedd hanner-pris i bobl dan 18 oed ac mae'n bosib y bydd rhai ohonynt yn gadael i chi edrych o amgylch yr arddangosfeydd yn rhad ac am ddim.

Dod yn wirfoddolwr

Os ydych eisiau helpu elusen neu sefydliad lleol yn eich ardal chi, gallwch wirfoddoli yn ystod y gwyliau.

Gallwch wneud cyn lleied neu gymaint ag y dymunwch, a mae gwirfoddoli'n gyfle gwych i ennill sgiliau newydd y gallwch eu defnyddio yn y dyfodol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU