Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth i'w wneud ynghylch bwlio

Os ydych chi'n 'nabod rhywun sy'n cael ei fwlio, neu os mai chi yw'r sawl sy'n gwneud y bwlio, mae rhai pethau y gallwch eu gwneud i'w atal rhag digwydd.

Os ydych chi'n cael eich bwlio

Y peth cyntaf y dylech ei wneud os ydych chi'n cael eich bwlio yw dweud wrth rywun amdano - peidiwch â diodde'n dawel. Gallwch ddweud wrth ffrind, rhiant neu athro/athrawes yn eich ysgol.

Hefyd, mae ambell beth y gallwch ei wneud eich hun a allai wneud i fwli feddwl ddwywaith cyn pigo arnoch chi:

  • ceisiwch ymddwyn yn fwy hyderus. Bydd bwlis yn aml yn pigo ar bobl sy'n ymddangos yn ddistaw ac yn fewnblyg. Os ydych chi'n edrych yn hunan-feddiannol, maen nhw'n debygol o roi llonydd i chi
  • os ydych yn cael eich bwlio ar y ffordd o'r ysgol, sicrhewch eich bod yn cerdded adref gyda grwp o ffrinidau neu trefnwch i oedolyn eich codi wrth y giât. Efallai ei fod yn swnio'n chwithig, ond byddwch wedi'ch diogelu'n well os byddwch gyda grup o bobl
  • er bod taro'n ôl yn demtasiwn, dydy hynny ddim yn syniad da. Efallai y cewch eich hun mewn trwbl, os cewch eich pryfocio i ymladd

Os gwelwch chi rywun yn cael ei fwlio neu os gwyddoch am rywun sy'n cael ei fwlio

Os nad ydych chi'n hoffi gweld pobl yn cael eu bwlio, gwnewch rywbeth am y peth. Trwy beidio â gwneud neu ddweud dim, rydych yn gadael i'r sawl sy'n bwlio ennill ac yn gadael i'r dioddefwr ddioddef mwy.

Os ydych yn awyddus i wneud rhywbeth, gallwch wneud y canlynol:

  • dweud wrthyn nhw am roi'r gorau i'r bwlio, heb i chi ddod yn gysylltiedig ag unrhyw wrthdaro
  • dweud wrth rywun am y bwlio. Gallai hwn fod yn athro yn eich ysgol neu, os gwelwch rywun yn ymosod yn gorfforol ar rywun, gallwch ddweud wrth yr heddlu

Os ydych chi'n bwlio eraill

Yn aml, mae'r un mor anodd i bobl sydd wedi bwlio eraill ofyn am help. Efallai eich bod yn poeni na fydd neb yn eich cymryd o ddifrif neu y cewch eich hun mewn trafferthion drwy gyfaddef eich bod wedi bwlio rhywun. Ond dydi hyn'na ddim yn wir.

Ceisiwch siarad ag athro neu ddisgybl hwn rydych yn ei adnabod yn dda a siarad am y rhesymau sydd y tu ôl i'ch bwlio. Gallan nhw roi cefnogaeth a chyngor i chi am sut i stopio bwlio.

Os hoffech chi siarad â rhywun yn ddi-enw, ffoniwch Childline neu'r NSPCC. Efallai eich bod yn meddwl mai dim ond y dioddefwyr y bydd y mudiadau hyn yn eu helpu, ond maen nhw wedi'u hyfforddi i helpu unrhyw un mewn ffordd gyfrinachol ac anfeirniadol.

Cynlluniau gwrth-fwlio yn yr ysgol

Mae gan lawer o ysgolion bolisi gwrth-fwlio ar waith sy'n ceisio amddiffyn myfyrwyr rhag cael eu harasio a'u cam-drin. Ceisiwch gael copi o'r polisi a'i ddangos pan fyddwch yn dweud wrth athro am y problemau rydych yn eu cael.

Mae gan rai ysgolion ddisgyblion hwn sy'ni gwirfoddoli i fod yn 'ffrindiau' i blant sy'n cael eu bwlio. Gallan nhw roi cyngor a chefnogaeth, a rhoi i chiu ffordd arall o riportio achosion o fwlio os nad ydych chi'ch hun yn gyfforddus yn rhoi gwybod am eich problemau i oedolyn arall.

Os nad ydych chi'ch hun yn cael eich bwlio, ond yn gwybod bod gan eich ysgol broblem bwlio a'ch bod yn awyddus i wneud rhywbeth am y sefyllfa, gallwch gysylltu â sawl mudiad a fydd yn eich helpu i sefydlu rhwydwaith neu gynllun gwrth-fwlio.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU