Efallai eich bod yn meddwl bod pryfocio plant yn yr ysgol yn hwyl digon diniwed, ond i'r dioddefwr, dydy hynny ddim yn hwyl o gwbl.
Os ydych chi'n bwlio rhywun, meddyliwch pam eich bod yn gwneud hynny. Ydych chi'n ceisio edrych yn dda neu ddangos rhyw ddelwedd arbennig i'ch grŵp o ffrindiau?
Mae nifer o resymau pam fod rhywun yn dechrau bwlio rhywun arall. Efallai:
Os ydych chi'n bwlio rhywun, efallai nad ydych chi'n sylweddoli faint o niwed rydych chi'n ei achosi. Gall galw enwau, sydd yn eich tyb chi'n ddoniol, effeithio'n fawr ar hyder a hunan-werth rhywun. Mewn achosion difrifol, bydd y dioddefwyr yn dechrau meddwl am adael cartref neu feddwl am niweidio ei hun dim ond er mwyn cael gwared ar y broblem.
Gall y canlyniadau fod yn ddifrifol i chi hefyd os cewch eich dal yn bwlio rhywun. Efallai y cewch eich gwahardd neu eich diarddel o'r ysgol. Os byddwch yn brifo rhywun yn gorfforol, efallai y cewch eich cosbi gan yr heddlu hefyd.
Y cam cyntaf ydy cyfaddef i chi'ch hun eich bod yn berson sy'n bwlio eraill. Mewn rhai achosion, efallai y gall fod yn eithaf hawdd stopio bwlio rhywun drwy beidio â'i wneud dim mwy. Efallai y byddwch hyd yn oed am ymddiheuro i'r sawl rydych wedi bod yn ei fwlio.
Os ydych yn cael eich annog gan grŵp o ffrindiau i barhau i fwlio, neu os ydych chi wedi bod yn bwlio am amser hir, efallai y bydd yn fwy anodd rhoi'r gorau iddi.
Os mai dyma'r achos, meddyliwch am y canlynol:
Yn aml, y bobl sy'n gallu rhoi cymorth a chyngor i'r rhai sy'n cael eu bwlio yw'r rhai sy'n gallu helpu'r rhai sy'n bwlio i newid eu hymddygiad a gwneud newid cadarnhaol.
Efallai eich bod yn poeni y cewch eich cosbi neu y bydd cymorth yn cael ei wrthod i chi os cyfaddefwch i chi fod yn bwlio, ond ni fydd hyn yn digwydd.
Os hoffech chi siarad â rhywun yn gyfrinachol neu'n breifat, ffoniwch Childline neu'r NSPCC. Mae eu cynghorwyr wedi cael eu hyfforddi i helpu gyda phob math o broblemau, felly peidiwch â phoeni y byddan nhw'n eich barnu.