Gall anhwylderau bwyta effeithio ar unrhyw un, nid merched ifanc yn unig. Mae 'na fathau gwahanol, pob un â symptomau gwahanol.
Mae pobl sy'n dioddef anhwylder bwyta'n poeni gymaint am bopeth y maent yn ei fwyta fel y gall reoli eu bywyd. Gall eu rhwystro rhag gwneud penderfyniadau realistig am yr hyn y maent yn ei fwyta a faint y dylent ei fwyta.
Gall pobl ddatblygu anhwylderau bwyta am nifer o resymau. Mae'r rhain yn cynnwys:
Os na chânt eu canfod, gall anhwylderau bwyta achosi problemau iechyd mawr gan eu bod yn atal y corff rhag cael yr ynni a'r maetholion sy'n hanfodol i'r corff weithio'n iawn.
Er mai merched yw llawer o'r bobl ag anhwylderau bwyta, mae nifer gynyddol o ddynion yn ceisio cymorth.
Cofiwch na fydd gan bawb ag anhwylder bwyta'r un symptomau bob amser â pherson arall gyda'r un broblem.
Mae'r rhai sy'n dioddef anorecsia nerfosa'n cyfyngu'n fawr iawn ar faint o fwyd y maent yn ei fwyta oherwydd bod ofn ennill pwysau arnynt. Gall rhai dioddefwyr beidio â bwyta dim neu ymprydio am nifer o ddyddiau.
Gall y rhai sy'n dioddef o'r cyflwr ers amser golli llawer o bwysau a byddant yn teimlo bod maint eu corff yn fwy na'i faint gwirioneddol. Mewn achosion difrifol, gall pobl farw o effeithiau anorecsia gan nad yw'r corff yn gallu gweithio fel y dylai, yn enwedig os na fydd y dioddefwr yn ceisio cymorth.
Mae bwlimia nerfosa'n wahanol i anorecsia, gan fod y dioddefwyr yn bwyta llawer o fwyd yn gyflym iawn, ac wedyn yn gorfodi'u hunain i chwydu neu gymryd carthyddion i gael gwared â'r holl fwyd.
Mae hyn yn digwydd mewn cylchoedd yn dibynnu ar ba mor ddifrifol y mae'r person yn dioddef o bwlimia. Gall y cylchoedd ddigwydd bob ryw ychydig o fisoedd neu hyd yn oed sawl gwaith bob diwrnod.
Efallai eich bod yn meddwl bod pob anhwylder bwyta'n achosi pobl i golli llawer o bwysau, ond gall pobl sy'n gorfwyta mewn pyliau ennill llawer iawn o bwysau oherwydd eu bod yn gorfwyta yn ystod y dydd neu'n parhau i fwyta pan nad ydyn nhw eisiau bwyd.
Ymateb i deimladau negyddol fel arfer yw gorfwyta mewn pyliau. Gall pobl sy'n gorfwyta mewn pyliau fynd yn ordew a gallant ddatblygu problemau gyda'r galon, pwysau gwaed a gall effeithio ar eu lefel ffitrwydd cyffredinol.
Os ydych chi'n meddwl bod gennych anhwylder bwyta, neu os ydych chi'n amau bod ffrind neu berthynas yn dioddef ac am eu helpu, dylech siarad â meddyg. Gallant awgrymu ffyrdd o drin y broblem a gallant ddarparu manylion grwpiau cefnogi a mudiadau cymorth yn eich ardal leol.
Gallwch hefyd gysylltu â Llinell Ieuenctid y Gymdeithas Anhwylderau Bwyta, sy'n brofiadol yn gwrando ar bobl ifanc sy'n teimlo bod ganddynt broblemau gyda bwyta. Bydd popeth a ddywedwch dros y ffôn yn cael ei gadw'n gyfrinachol.