Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 25 Mai 2012

Perthynas gamdriniol

Gall unrhyw un gael ei ddal mewn perthynas gamdriniol, yn ddynion ac yn ferched. Os oes gennych chi bartner treisgar, neu os ydych yn amau bod ffrind mewn perthynas gamdriniol, mae cymorth wrth law.

Beth mae perthynas gamdriniol yn ei olygu?

Nid oes rhaid i berthynas fod yn dreisgar i gael ei galw'n gamdriniol. Gall unrhyw fath o ymddygiad neu iaith a ddefnyddir er mwyn bygwth, codi ofn neu reoli rhywun arall ddisgrifio perthynas gamdriniol, ac mae hyn yn cynnwys cam-drin emosiynol, geiriol neu rywiol.

Dyma rai o'r pethau sy'n cyfrif fel cam-drin mewn perthynas:

  • trais corfforol
  • bygythiadau o drais yn eich erbyn
  • rhywun sy'n rheoli pwy y cewch eu gweld a ble y cewch fynd
  • beirniadaeth gyson ac anghymeradwyaeth o bopeth a wnewch

Gall unrhyw fath o berthynas droi yn un gamdriniol, beth bynnag y bo'ch oed. Efallai eich bod yn canlyn rhywun sy'n gwneud i chi deimlo'n fach yng ngŵydd ei ffrindiau, neu efallai fod aelod hŷn o'ch teulu yn achosi niwed corfforol i chi. Dim ond ychydig enghreifftiau o berthynas gamdriniol yw'r rhain.

Os mai chi yw'r dioddefwr

Os ydych mewn perthynas gamdriniol, mae'n bwysig eich bod yn siarad â rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo, fel ffrind neu berthynas. Mae gan rai ysgolion a cholegau gynghorwyr ar y safle y gallwch siarad â nhw, neu efallai yr hoffech ddweud wrth athro hefyd.

Mae'n bwysig i chi gofio nad ydych ar eich pen eich hun. Mae amryw o bobl wedi bod yn gaeth mewn perthynas gamdriniol ac wedi llwyddo i ddianc o'r berthynas honno.

Mae hefyd yn bwysig eich bod yn cofio nad arnoch chi mae'r bai am ymddygiad rhywun arall. Efallai eich bod yn meddwl eich bod wedi dweud rhywbeth neu wedi gwneud rhywbeth o'i le gan eu hypsetio a pheri iddynt droi'n ymosodol. Beth bynnag yr ydych yn meddwl eich bod wedi'i wneud, does dim esgus dros sarhau cyson a bygythiadau o drais.

Ai i ferched priod yn unig y mae'n digwydd?

Gall dynion a merched ddioddef perthynas gamdriniol, ond mae'r rhan fwyaf o achosion trais yn y cartref yn cynnwys merched neu blant.

Ond gall pobl ifanc sy'n canlyn rhywun hefyd fod yn ddioddefwr mewn perthynas gamdriniol.

Poeni am ffrind?

Os ydych yn pryderu bod perthynas neu rywun arall yr ydych yn ei adnabod mewn perthynas gamdriniol, dylech siarad â nhw am y peth.

Efallai eich bod yn teimlo na ddylech fusnesu ym mywyd rhywun arall, ond ni fydd anwybyddu'r broblem yn helpu a gall wneud i'r dioddefwr deimlo'n fwy ynysig ac unig.

I helpu rhywun, gallwch wneud y canlynol:

  • bod yn barod i wrando pan fydd arnynt angen rhywun i siarad ag ef
  • mynd gyda nhw os byddant yn penderfynu mynd i weld athro neu gwnselydd ysgol
  • edrych ar y rhyngrwyd am wybodaeth a rhifau llinellau cymorth a allai fod yn ddefnyddiol
  • bod mor gefnogol â phosib gan ddangos cydymdeimlad

Mae'n bwysig nad ydych yn ceisio herio'r person sy'n bod yn dreisgar. Byddwch yn rhoi eich hun mewn perygl drwy wneud hyn.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU