Os nad ydych chi'n teimlo'n dda, gallwch drefnu i weld meddyg neu ddeintydd. Mae trefnu apwyntiad yn rhwydd.
Dylech gael archwiliad gan eich deintydd bob chwe mis i sicrhau nad oes dim problemau gyda'ch dannedd neu gnawd eich dannedd. Bydd rhai deintyddion yn eich dileu oddi ar eu cofrestr cleifion os na fyddwch chi'n trefnu apwyntiad o fewn cyfnod penodol. Os digwydd hyn, bydd rhaid i chi gofrestru eto gyda deintydd newydd.
Os nad oes gennych gyflwr meddygol penodol y mae'n rhaid ei fonitro, does dim angen i chi drefnu apwyntiad rheolaidd gyda'ch meddyg teulu. Ond os ydych chi'n bwriadu gwneud mwy o ymarfer corff yn rheolaidd, neu'n bwriadu teithio dramor, dylech gael sgwrs gyda'ch meddyg ynghylch beth y gallai hyn ei olygu o safbwynt eich iechyd.
I drefnu apwyntiad gyda meddyg neu ddeintydd, bydd angen i chi ffonio'r feddygfa neu'r ddeintyddfa.
Os byddwch yn trefnu apwyntiad, cofiwch fynd. I ad-drefnu apwyntiad, dylech geisio rhoi gwybod iddyn nhw ychydig o ddiwrnodau ymlaen llaw er mwyn iddyn nhw lenwi'r bwlch.
Bydd rhai deintyddion yn codi arnoch am golli'ch apwyntiad. Mae'n bosib hefyd y bydd rhai deintyddion a meddygon yn eich tynnu oddi ar eu rhestr os byddwch chi'n colli apwyntiadau'n rheolaidd.
Os na allwch gyrraedd y feddygfa am eich bod yn ddifrifol wael, mae'n bosib y gall eich meddyg ymweld â chi yn eich cartref. Os byddwch chi'n ffonio'r feddygfa ac yn gofyn i'r meddyg ymweld â chi, bydd rhywun yn eich holi i gael gwybod a oes angen i'r meddyg ddod i'ch gweld yn eich cartref, ynteu a ddylech chi fynd i’r ysbyty.
Efallai hefyd y byddwch am fynd i adran ddamweiniau ac achosion brys eich ysbyty agosaf os ydych chi'n ddifrifol wael neu os ydych chi wedi cael damwain. Os na all neb fynd â chi i'r ysbyty, ac mae'n achos brys, gallwch ffonio 999 a gofyn am ambiwlans.
Os ydych chi am gael gwybodaeth neu gyngor am iechyd, gallwch hefyd gysylltu ag NHS Direct. Fe allwch chi ffonio 0845 4647, 24 awr y dydd, neu fynd i wefan NHS Direct. Mae NHS Direct yn help os oes gennych ryw fân anhwylder megis annwyd a chithau eisiau cyngor sydyn am y ffordd orau o gael gwared â'r peth heb orfod mynd i weld eich meddyg.
Bydd nyrsys a phobl broffesiynol hyfforddedig ym maes iechyd yn ateb pob galwad ac fe allan nhw roi cyngor i chi os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei 'nabod yn sâl, yn ogystal â rhoi manylion gwasanaethau iechyd lleol eich ardal i chi.
Hyd yn oed os ydych chi wedi cofrestru gyda meddyg, mae'n bosib yr hoffech chi ddefnyddio clinig drws-agored. Chewch chi ddim gwneud apwyntiad mewn clinig drws-agored a'r cyntaf i'r felin gaiff falu. Mae hyn yn golygu y gall fod rhaid i chi ddisgwyl yn hir cyn i rywun eich gweld.
Gall clinigau drws-agored drin mân afiechydon ac anafiadau, ac fe allan nhw roi cyngor cyfrinachol am ddim i chi am faterion iechyd cyffredinol, gan gynnwys cwestiynau ynghylch iechyd rhywiol.