Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Bwyta'n iach

Dim ots faint o ymarfer corff wnewch chi, fe all bwyta sothach seimllyd saith diwrnod yr wythnos wneud difrod i'ch corff.

Beth sy'n iach?

Hanfod bwyta'n iach yw sicrhau eich bod yn cael y swm iawn o fitaminau, mineralau, protin a charbohydrad, yn ogystal â'r mathau iawn o fraster a siwgwr.

Mae tomen o gyngor a gwybodaeth am fwyta'n iach ym mhob man, ac mae ceisio deall y cyfan bron yn amhosib. Ond os ydych chi'n meddwl y gallech chi wella'ch deiet, mae ambell beth syml i'w gofio.

Deiet iach

Sicrhau eich bod yn bwyta'r cydbwysedd iawn o'r bwydydd iawn yw'r allwedd i ddeiet iach. Dyma ambell gyngor i sicrhau eich bod yn bwyta'r amrywiaeth iawn o fwyd:

  • bwytwch bum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd fan leiaf. Mae hyn yn cynnwys sudd ffrwythau a ffa pob
  • seiliwch eich prydau ar fwydydd starts, megis tatws, reis brown a bara cyflawn
  • os byddwch chi'n bwyta cig bob dydd o'r wythnos, ceisiwch fwyta pysgodyn olewog yn lle hynny ambell ddiwrnod, pysgod megis mecryll, eog neu diwna
  • dewiswch gaws, llaeth a iogwrt isel mewn braster bob tro
  • gofalwch beidio â bwyta gormod o halen. Gan fod y rhan fwyaf o'r halen y byddwn yn ei fwyta'n dod o fwydydd sydd wedi'u prosesu, darllenwch y label - os yw'r bwyd yn cynnwys mwy na 1.25 gram o halen ym mhob 100g, mae hynny'n lot. Peidiwch ag ychwanegu halen at eich bwyd wrth goginio neu wrth y bwrdd
  • ceisiwch fwyta ac yfed llai o bethau uchel mewn braster neu siwgwr rhwng prydau bob wythnos

Cael gwared ar arferion drwg

Os ydy'ch chi'n brysur iawn, mae'n demtasiwn mawr mynd i'r arfer o fwyta rhwng prydau. Mae'n bosib bod sglaffio bag o greision neu far o siocled ar y ffordd adref yn rhoi hwb i'ch egni, ond fel arfer, dyma'r math o bethau sy'n llawn braster a siwgwr o'r math gwaethaf.

Mae'n well ceisio peidio â bwyta rhwng prydau'n gyfangwbl, ond os yw'n anodd i chi wneud hynny, cadwch ffrwyth neu ddau neu fag o gnau wrth law . Mae'r rhain yn gallu rhoi'r un math o hwb i'ch egni ac mae'r braster a'r siwgrau sydd ynddyn nhw'n well i chi.

Arfer drwg arall yw peidio â bwyta brecwast. Mae'n bosib ei bod yn well gennych dreulio 15 munud arall yn y gwely neu yn yr ystafell molchi bob bore, ond mae peidio â bwyta brecwast yn golygu eich bod yn debygol o fod yn estyn am y siocled ganol bore. Mae bwyta rhywbeth fel powlenaid o rawnfwyd a gwydraid o sudd ffrwythau cyn gadael y tw yn y bore'n fwy na digon i'ch cadw i fynd tan amser cinio.

Poeni am eich pwysau

Mae bod dros eich pwysau yn gallu cynyddu'r risg o gael clefydau megis diabetes, clefyd y galon a rhai mathau o ganser. Er bod pobl yn tyfu ac yn datblygu ar gyfradd wahanol ac ar wahanol oedrannau, dylech anelu at fod o fewn yr ystod pwysau normal ar gyfer eich taldra.

Os ydych chi'n poeni am eich pwysau, neu os hoffech chi gael cyngor am eich deiet, maethiad neu fwyta'n iach, pam na wnewch chi drefnu i weld eich meddyg?

Mynd ar Ddeiet

Mae'n bosib eich bod yn cael eich temtio i roi cynnig ar un o'r deiets sy'n llenwi tudalennau cylchgronau bob wythnos, ond anaml iawn y mae'r rhain yn syniad da, a dydyn nhw ddim wastad yn gweithio. Bydd gwneud mân newidiadau i'ch deiet a bwyta llai o bethau melys a bwydydd llawn braster yn iachach o lawer i chi yn y tymor hir.

Yn yr adran hon

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU