Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn, mae'n bosib y gallwch chi hawlio budd-daliadau neu gredydau treth penodol (taliadau gan y llywodraeth) os ydych chi ar incwm isel, yn chwilio am waith, yn anabl neu'n gofalu am blentyn neu berson hŷn.
Gall hawlio budd-daliadau ymddangos yn hynod o anodd i lawer o bobl. Y cam cyntaf yw i ffonio'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol. Bydd pob ymgynghorydd yn gallu eich helpu i gael gwybod pwy fudd-daliadau yr ydych â hawl i dderbyn a'ch arwain wrth gwblhau y ffurflen hawlio.
Os ydych yn 16 neu'n 17, byddwch yn derbyn galwad yn ôl o fewn 4 awr i drafod eich sefyllfa, ac os ydych dros 18, bydd ymgynghorydd yn cysylltu â chi o fewn 24 awr. Y mwyaf o wybodaeth gallwch chi rhoi i'r ymgynghorydd ynghylch eich sefyllfa bersonol a'ch amgylchiadau ariannol, y mwyaf haws fyddai i fesur yr hyn yr ydych allu hawlio.
Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac ar incwm isel, mae'n bosib y gallech chi wneud cais am gymorth ariannol gan y llywodraeth. Bydd yr union swm a gewch yn dibynnu ar eich oedran a'ch amgylchiadau personol.
Cymhorthdal Incwm
Os ydych dros 16 mae'n bosib na fyddwch chi'n gallu gweithio oherwydd eich bod yn rhiant ar eich pen eich hun sy'n gorfod aros gartref a gofalu am eich plant, neu eich bod wedi cofrestru'n berson anabl, yn sâl neu'n gyfrifol am berthynas anabl, yna mae'n bosib eich bod yn gymwys i gael Cymhorthdal Incwm.
Os ydych chi'n fyfyriwr prifysgol, ar gwrs hyfforddiant neu mewn addysg llawn amser, dim ond dan amgylchiadau arbennig y byddwch chi'n gymwys. Yn yr achos hwn, gall unrhyw waith rhan amser fyddwch yn gwneud eich achosi i golli eich hawliad.am Gymhorthdal Incwm.
Os ydych chi’n cael Lwfans Cynhaliaeth Addysg, ni fydd hwn yn effeithio ar eich hawliad Cymhorthdal Incwm.
Lwfans Ceisio Gwaith
Mae'r Lwfans Ceisio gwaith bu fudd-dal sydd ar gael i'r rhan fwyaf o bobl 18 oed a hyn sy'n ddi-waith ond yn chwilio am waith. Mae'n bosibl y byddwch yn gymwys hefyd os oes gennych swydd lle byddwch yn gweithio llai na 16 awr yr wythnos.
Os ydych yn 16 neu'n 17, dim ond mewn amgylchiadau arbennig y byddwch yn gallu hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, er enghraifft, caledwch llym oherwydd ymddieithrio wrth eich teulu. Cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith lleol os mai hwn yw'r achos.
Y mwyaf o wybodaeth gallwch chi rhoi i'r ymgynghorydd ynghylch eich sefyllfa bersonol ac amgylchiadau ariannol, y mwyaf haws fyddai i fesur yr hyn yr ydych allu hawlio. Gallwch ofyn i oedolyn arall sydd yn gwybod am eich sefyllfa fynd i'r cyfweliad gyda chi, ac ni fydd eich rhieni yn cael eu hysbysebu am eich cyfarfod heblaw eich bod chi am iddynt.
Os ydych chi dan 18 oed, neu os ydych chi'n fyfyriwr, go brin y byddwch chi'n gallu hawlio'r lwfans.
Gallwch hawlio Budd-dal Tai i'ch helpu gyda'ch rhent os yw eich incwm a'ch cynilion o dan lefel benodol. os ydych chi'n sengl a dan 25 oed, dim ond ar gyfer llety mewn ystafell byw a chysgu neu ystafell mewn llety a rennir y gallwch hawlio Budd-dal Tai. Ni allwch fel arfer dderbyn Budd-dal Tai os ydych yn byw gyda'ch rhieni neu berthynas agos ac yn talu rhent iddynt, ond mae dal yn werth gwirio hyn.
Os ydych chi'n fyfyriwr amser llawn, fyddwch chi ddim yn gallu hawlio heblaw eich bod yn anabl neu fod gennych blant.
Taliad wythnosol yw'r Credyd Treth Gwaith tuag at eich costau byw. Mae ar gael yn bennaf i bobl dros 25 mlwydd oed, ond os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn gyda phlant neu anabledd sy’n effeithio ar eich gallu i weithio neu chwilio am waith, mae’n bosib byddwch hefyd yn gallu hawlio.
Taliad wythnosol yw'r Credyd Treth Gwaith tuag at eich costau byw os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn a bod gennych gyfrifoldeb llawn o ofalu am blentyn (hyd yn oed os nad chi yw’r rhiant).
Mae’r swm y byddwch yn derbyn yn dibynnu ar faint o blant mae gennych gyfrifoldeb am, p’un ai eich bod yn byw ar eich pen eich hun ac oedran eich plentyn. Mae yna daliadau ychwanegol os ydy’r plentyn yn anabl.
Cewch hawlio Lwfans Gofalwr os ydych chi'n 16 oed neu drosodd a'ch bod yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am yr un perthynas, ffrind neu gymydog a'u bod nhw'u hunain yn hawlio budd-daliadau penodol eraill.
Cofiwch eich bod yn gallu cael cymorth ariannol gyda’ch gofal plant os ydych dan 20 ac eich bod yn yr ysgol, coleg neu'n cymryd rhan mewn rhaglen dysgu yn y gwaith gyda'r cynllun Care to Learn. Gallwch hefyd gwneud cais am fudd-daliadau plant, er gallai hyn efallai effeithio ar faint o fudd-daliadau eraill gallwch dderbyn.
Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn, mae'n bosib y gallwch chi wneud cais am Fudd-dal Analluogrwydd os ydych chi wedi methu gweithio oherwydd salwch neu anabledd.
Fel arfer, dim ond os ydych chi wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ystod eich oes gweithio. Fodd bynnag, mae'n bosib y gallech ddal i'w dderbyn os ydych chi dan 20 oed ac wedi bod yn rhy sâl i weithio drwy'r 28 wythnos.
Efallai y byddwch yn gallu hawlio Lwfans Byw i'r Anabl i chi'ch hun ac ar ran plentyn anabl os ydych chi'n gyfrifol am eu gofal. Mae'r lwfans yn dibynnu ar ddau beth: i ba raddau mae rhywun yn gallu symud o gwmpas a faint o ofal sydd ei angen.
Efallai gallwch dderbyn cymorth ariannol am daliadau annisgwyl os ydych eisoes yn hawlio Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith a rhai budd-daliadau eraill. Mae'r rhain yn cynnwys: