Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymorth ariannol i bobl ifanc mewn addysg neu bobl ifanc sy'n derbyn hyfforddiant

Os byddwch yn dal ati i ddysgu ar ôl cael eich pen-blwydd yn 16 oed - naill ai mewn addysg amser llawn neu drwy ddysgu yn y gwaith - gallwch gael cymorth ariannol ar gyfer costau eich astudiaethau.

Cymorth ariannol ar gyfer dysgu

P'un ai'ch bod yn penderfynu aros mewn addysg amser llawn ynteu'n penderfynu dysgu yn y gwaith, mae cymorth ariannol ar gael. Bydd y math o gymorth y gallwch ei dderbyn - a faint o arian mae gennych hawl iddo - yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.

Ceir mwy o wybodaeth am ystod y cymorth sydd ar gael yn y llyfryn, ‘Cymorth Ariannol i Bobl Ifanc’. Gallwch lwytho copi oddi ar y we drwy ddilyn y ddolen isod.

Cymorth ariannol os ydych chi'n dysgu yn y gwaith

Os ydych chi'n dysgu yn y gwaith, gallech fod yn gymwys i gael rhywfaint o'r cymorth a ddisgrifir ar y dudalen hon.

Yn ogystal â hyn, mae mathau penodol o gymorth ariannol ar gael i bobl ifanc sy'n dysgu ac yn gweithio yr un pryd.

I gael gwybod mwy, ewch i ‘Sgiliau ar gyfer gwaith os ydych chi dan 19’.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Gall y Lwfans Cynhaliaeth Addysg roi hyd at £30 yr wythnos i chi i aros yn y maes dysgu ar ôl gadael yr ysgol. Gallwch hefyd ennill bonws, yn dibynnu ar eich cynnydd a'ch presenoldeb.

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref.

Gallwch wneud cais am y Lwfans Cynhaliaeth Addysg os ydych chi:

  • mewn addysg amser llawn mewn coleg chweched dosbarth neu yn y chweched dosbarth mewn ysgol, er enghraifft yn astudio Safon UG neu Safon Uwch
  • yn cymryd rhan mewn rhaglen Mynediad at Waith
  • ar ‘Brentisiaeth dan law Rhaglen’ (mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i arwain at ‘Brentisiaeth dan law Cyflogwr’, lle byddwch yn gweithio i gyflogwr)

Telir Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar ben unrhyw fath arall o gymorth ariannol y bydd y llywodraeth yn ei roi i chi, felly ni fydd yn effeithio ar unrhyw un o fudd-daliadau'r cartref y gallech chi neu'ch teulu fod yn eu hawlio (megis Cymhorthdal Incwm, Budd-daliadau Plant neu Gredyd Treth Gwaith).

Cymorth gyda chostau gofal plant

Os ydych chi dan 20 oed a bod gennych blant, gallech gael cymorth â chostau gofal plant drwy'r cynllun Gofal i Ddysgu. Gallwch wneud cais os ydych chi yn y chweched dosbarth mewn ysgol, mewn coleg, neu ar raglen dysgu yn y gwaith.

Cymorth gyda chostau teithio

Os ydych chi'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus i'r chweched dosbarth mewn ysgol, coleg neu sefydliad addysg bellach, mae'n bosibl y gallech chi gael help gyda'r gost gan eich awdurdod lleol.

Os ydych chi ar raglen Entry to Employment neu ar gwrs sy'n arwain at Brentisiaeth, dylech ofyn i'ch darparwr dysgu a allan nhw gynnig unrhyw gymorth i chi gyda'ch costau teithio.

Cymorth os ydych chi'n astudio oddi cartref

Gallech fod yn gymwys i gael cymorth ychwanegol gyda'ch costau os ydych am fynychu:

  • un o'r 51 Canolfan neu Goleg Preswyl Arbenigol sy'n cynnig cyrsiau mewn amaethyddiaeth, garddwriaeth a chelf a dylunio yn bennaf
  • cyrsiau arbenigol sydd y tu hwnt i bellter teithio dyddiol drwy gyfrwng Cynllun Peilot Preswyl cenedlaethol - dim ond pan nad oes cwrs ar gael yn lleol y bydd hwn yn berthnasol

Os ydych chi ar Brentisiaeth a gofynnir i chi weithio neu astudio oddi cartref, efallai y gall eich cyflogwr neu'r coleg eich helpu gydag unrhyw gostau ychwanegol

Cronfeydd Cefnogi Dysgwyr

Os ydych chi'n astudio yn y chweched dosbarth naill ai mewn coleg neu ysgol, efallai y gallech chi gael cymorth i brynu llyfrau neu offer, neu ar gyfer costau eraill sy'n gysylltiedig â dysgu gan Gronfeydd Cefnogi Dysgwyr.

Gallwch gael Cronfeydd Cefnogi Dysgwyr yr un pryd â'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

Grantiau Dawns a Drama

Ysgoloriaethau cenedlaethol yw'r Grantiau Dawns a Drama i'r myfyrwyr dawns a drama mwyaf talentog. Maent ar gael yn rhai o sefydliadau celfyddydau perfformio preifat gorau Lloegr. Mae’r grantiau yn cael eu cynnig i’r myfyrwyr sy’n arddangos y potensial mwyaf lwyddo yn y proffesiwn.

Bydd y grant yn talu am y rhan fwyaf o'ch ffioedd dysgu, ond disgwylir i chi wneud cyfraniad personol. Gallwch hefyd gael arian ychwanegol i helpu gyda’ch costau byw.

Cymorth i fynd i'r brifysgol

Os ydych chi'n meddwl am fynd i addysg uwch, gallwch wneud cais am fenthyciadau a grantiau i helpu gyda ffioedd a chostau byw.

Yn yr adran hon...

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU