Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Syniadau arbed arian

Os ydych chi'n cyfri'r ceiniogau ac yn ceisio rheoli faint rydych yn ei wario, efallai'ch bod yn chwilio am gyngor call am sut y gallwch gael mwy am eich arian.

Siopa ar-lein

Yn aml iawn cewch well bargeinion wrth siopa ar-lein am bopeth o CDs a llyfrau i nwyddau trydanol mawr.

Er mwyn defnyddio safle siopa ar-lein bydd angen cyfrif banc arnoch oherwydd fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru gyda'ch manylion banc arni.

Os byddwch yn siopa ar-lein, mae'n bwysig defnyddio safle sy'n sicrhau bod manylion eich cerdyn yn cael eu cadw'n ddiogel. Golyga hyn fod y wefan yn defnyddio technoleg sy'n amddiffyn eich manylion banc rhag twyllwyr a hacwyr ar-lein. Byddwch yn gwybod os yw safle'n ddiogel os yw cyfeiriad y wefan honno'n cychwyn â 'https' ac os bydd eicon clo bychan yn ymddangos ar waelod eich ffenestr.

Cardiau teyrngarwch

Nid archfarchnadoedd yn unig sy'n cynnig cynlluniau teyrngarwch - mae llawer o siopau'r stryd fawr yn eu defnyddio hefyd, ond peidiwch â chamgymryd y rhain am gardiau siopau. Dydyn nhw ddim yr un fath.

Wrth ymuno â chynllun teyrngarwch, bob tro y byddwch yn siopa mewn un siop arbennig, cewch bwyntiau yn dibynnu ar faint o arian y byddwch wedi ei wario. Unwaith y byddwch wedi cronni digon, cewch ddefnyddio'r pwyntiau i dalu am eich siopa yn yr un modd â phe baech yn defnyddio arian parod.

Cedwir eich pwyntiau ar eich cerdyn teyrngarwch personol eich hun y byddwch yn ei roi i'r ariannwr pryd bynnag y byddwch yn talu am eich nwyddau. Byddwch hefyd yn gallu gweld faint o bwyntiau sydd gennych yn y siop neu ar-lein.

Mae cardiau teyrngarwch yn ddefnyddiol os byddwch yn prynu llawer o bethau o'r un siop, a byddech yn synnu pa mor sydyn y maent yn cynyddu.

Tocynnau mantais mewn cylchgronau

Cadwch eich llygaid ar agor am unrhyw docynnau mantais mewn cylchgronau y byddwch yn eu darllen.

Mae 'na bob amser ddigon o gynigion sy'n rhoi gostyngiad i chi os byddwch chi'n gwario swm penodol o arian yn y siop, yn enwedig ar bethau fel taclau ymolch, cerddoriaeth a DVDs. Gallwch hefyd godi tocyn 'prynu un, cael un am ddim' fel y gallwch gael mwy o bethau heb orfod talu'n ychwanegol amdanynt.

Dydy mynd allan a gwario'ch arian dim ond er mwyn cael defnyddio'r tocyn ddim yn syniad da, ond os oeddech yn bwriadu mynd i siopa, gwnewch yn fawr o unrhyw docynnau mantais y gallwch gael gafael arnynt.

Torri gwallt yn rhatach

Os ydych chi'n awyddus i gael torri'ch gwallt yn broffesiynol neu'n dymuno cael ychydig o faldod, ond yn methu â fforddio mynd i salon tan gamp, ceisiwch weld a oes yna unrhyw ysgolion gwallt a harddwch yn eich ardal chi. Efallai bod yna un yn eich coleg chi na wyddech erioed amdani.

Mae academïau trin gwallt bob amser yn chwilio am bobl sy'n fodlon gadael i fyfyriwr dorri eu gwallt am bris gostyngol, a bydd darlithydd wrth law yn wastad er mwyn sicrhau nad oes camgymeriadau'n cael eu gwneud.

Efallai y bydd yn cymryd ychydig yn hwy nag apwyntiad arferol ac efallai mai yn ystod y dydd yn unig y bydd modd i chi fynd yno, ond gall y gostyngiadau fod yn sylweddol iawn.

Gwerthu eich hen bethau

Os ydych eisiau codi arian ychwanegol yn gyflym, edrychwch a oes gennych unrhyw beth i'w werthu.

Edrychwch o'ch cwmpas a byddwch yn siŵr o ddod o hyd i bethau nad oes eu hangen arnoch o gwmpas y lle - pethau nad ydych yn eu defnyddio bellach neu ddillad sy'n rhy fach i chi. Ond yn hytrach na'u taflu i'r bin, gall CDs nad ydych eu hangen neu hen ddodrefn roi hwb i'ch cyfrif banc - ac efallai y byddwch yn synnu faint o arian y gallwch ei godi.

Unwaith y byddwch wedi hel pethau at ei gilydd, gallwch roi hysbyseb yn eich papur newydd lleol, gwerthu pethau i'ch ffrindiau, neu hyd yn oed ddefnyddio un o'r nifer o safleoedd arwerthu ar-lein a geir ar y we. Os ydych yn dymuno gwerthu'n sydyn, sicrhewch eich bod yn disgrifio'ch eitemau'n fanwl gywir a bod eich pris yn realistig.

Ond cofiwch wneud yn siur eich bod yn gofyn a yw hi'n iawn i chi werthu rhywbeth cyn mynd ati i wneud hynny. Gallai cael gwared ar rywbeth a allai fod o werth sentimental i rywun arall, neu rywbeth y gallai perthynas iau ei ddefnyddio achosi dadlau fwy na thebyg.

Siopau elusen

Os oes achos da sy'n agos iawn at eich calon, beth am fynd i'ch siop elusen leol? Yn aml iawn gallwch ddod o hyd i lyfrau, DVDs ac ategolion am brisiau gostyngol.

Yn ogystal ag arbed arian, byddwch yn cyfrannu tuag at achos da ar yr un pryd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU