Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Talu Treth Incwm

Os ydy treth Incwm yn beth newydd i chi, mae'n beth defnyddiol gwybod faint y bydd rhaid i chi ei dalu a sut y disgwylir i chi dalu'r swm hwnnw. Mae'n werth gwybod hefyd pryd na fydd rhaid i chi dalu treth a sut mae ei hawlio'n ôl os oes camgymeriad wedi bod.

Pwy sy'n talu Treth Incwm?

Mae Treth Incwm yn daladwy ar eich 'incwm trethadwy' cyffredinol yn ystod y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill) os bydd yn mynd y tu hwnt i lefel benodol. Mae hyn yn cynnwys eich enillion mewn unrhyw swydd, y Lwfans Ceisio Gwaith os ydych chi'n ei hawlio, budd-daliadau penodol eraill ac unrhyw log gewch chi ar eich cynilion.

Faint fyddwch chi'n ei dalu?

Caiff pawb yn y wlad ennill swm o arian heb orfod talu Treth Incwm arno. Dyma'ch 'lwfans personol'. Yn y flwyddyn dreth hon (2008-2009), y lwfans personol ar gyfer pawb dan 65 oed yw £5,435 - sy'n golygu na fyddwch chi'n talu unrhyw Dreth Incwm ar enillion hyd at y swm hwnnw.

Ond cofiwch fod y Canghellor wedi cyhoeddi yn ddiweddar y bydd y lwfans personol hwn yn cynyddu £600 o £5,435 i £6,035 ym mis Medi 2008. Os bydd unrhyw arian ychwanegol yn ddyledus ichi oherwydd y newid hwn, byddwch yn ei dderbyn ym mis Medi 2008.

Os yw cyfanswm eich incwm am flwyddyn yn fwy na'r lwfans personol, byddwch chi'n talu Treth Incwm ar y swm ychwanegol hwnnw fel a ganlyn:

Cyfraddau Treth Incwm 2008-2009

Swm uwchben y lwfans personol Treth Incwm ar enillion a budd-daliadau Treth Incwm ar log cynilion
£1 i £2,230 10%

£0 i £36,000

20% 20%

£36,001 neu fwy

40% 40%

Er enghraifft, os bydd cyfanswm eich incwm mewn blwyddyn dreth yn £10,000:

  • fyddwch chi ddim yn gorfod talu Treth Incwm o gwbl ar y £5,435 cyntaf, a bydd £4,565 dros ben
  • bydd yr arian hyn yn cael ei drethu yn ôl cyfradd o 20 y cant (£913)

Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n talu £913 o Dreth Incwm yn ystod y flwyddyn.

Petai eich enillion yn cynnwys llog ar unrhyw gynilion sydd gennych, byddai hyn yn cael ei drethi hefyd.

Lwfans person dall

Mae'n bosib y byddai eich lwfans di-dreth yn codi petaech chi'n gymwys ar gyfer lwfans person dall, gan olygu y byddech chi'n talu llai o dreth.

Sut fyddwch chi'n talu Treth Incwm os byddwch chi'n gyflogedig

Os ydych chi'n gyflogedig, bydd unrhyw dreth sy'n ddyledus gennych fel arfer yn cael ei thynnu'n syth o'ch cyflog gan eich cyflogwr, ynghyd â'ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG). Dyma'r system Talu Wrth Ennill (TWE - PAYE). Byddwch chi'n gwybod faint o dreth ac YG rydych wedi'i dalu oherwydd bydd yn cael eu dangos ar eich papur cyflog.

Sut fydd eich cyflogwr yn gwybod faint i'w dynnu?

Bydd eich cyflogwr yn dweud wrth eich Swyddfa Dreth faint rydych chi'n ei ennill a byddan nhw'n rhoi cod treth i chi'n dangos faint o Dreth Incwm ac YG y mae angen ei dynnu.

Fe welwch chi'r cod treth ar eich papur cyflog. Gan amlaf byd dyn cynnwys tri rhif ac wedyn llythyren.

Ffurflenni treth a Threth Incwm

Ar ôl i chi ddechrau gweithio, fe gewch chi sawl darn o bapur gan eich cyflogwr neu gan eich swyddfa Dreth. Bydd angen y rhain arnoch ar gyfer eich swydd newydd, neu os byddwch am holi ynghylch faint o Dreth Incwm rydych wedi'i dalu - felly cadwch nhw mewn man diogel. Y ffurflenni pwysicaf yw

  • P45 - gan eich cyflogwr pan fyddwch yn gadael eich swydd
  • P60 - gan eich cyflogwr ar ddiwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill)

Os ydych yn fyfyriwr sy'n gweithio yn y gwyliau

Os ydych yn fyfyriwr ac yn gweithio dros y gwyliau, mae'n bosib y bydd eich enillion drwy'r flwyddyn i gyd yn rhy fach i chi orfod talu unrhyw Dreth Incwm. Gofynnwch i'ch cyflogwr am ffurflen P38S os credwch fod hynny'n wir amdanoch chi - fel na fydd rhaid i chi dalu Treth Incwm o'r cychwyn. Ond bydd dal rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol os byddwch yn ennill dros £100 yr wythnos.

Os na fyddwch chi'n llenwi ffurflen P38S, mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu treth ar y dechrau ac yna'i hawlio'n ôl ar ddiwedd y flwyddyn dreth.

Hawlio treth yn ôl os byddwch wedi talu gormod

Mae'n bosib y byddwch chi wedi talu gormod o Dreth Incwm os ydych chi'n fyfyriwr a chithau heb lenwi'r ffurflen iawn wrth ddechrau gweithio, neu os rhoddwyd cod treth brys neu god treth anghywir i chi pan ddechreusoch chi weithio.

Treth Incwm os ydych chi'n hunangyflogedig

Os ydych chi'n gweithio i chi’ch hun, chi sy'n gyfrifol am dalu’r swm iawn o dreth. Bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad a thalu Treth Incwm yn uniongyrchol i Gyllid a Thollau EM.

Treth Incwm ar gynilion

Os oes gennych gynilion, tynnir Treth Incwm ar gyfradd o 20 y cant yn otomatig o'r llog cyn i chi ei dderbyn. Os nad yw cyfanswm eich incwm yn y flwyddyn yn ddigon i chi orfod talu hwn, cewch hawlio peth o'r dreth neu'r cyfan ohoni yn ôl.

Treth Incwm a budd-daliadau

Os ydych yn derbyn budd-daliadau’r wladwriaeth bydd angen cynnwys rhai ohonynt os ydych yn cyfrif eich incwm personol. Mae rhai yn ddi-dreth.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU