Os ydych chi'n gweithio, yn astudio neu'n hawlio budd-daliadau, mae'n debyg y byddwch chi'n talu treth mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Mae'r canllawiau syml hyn yn esbonio beth yw treth mewn gwirionedd a pha bryd rydych chi'n debygol o orfod ei thalu. Mae hefyd yn rhoi cyflwyniad i Yswiriant Gwladol.
Treth yw'r ffordd y bydd y Llywodraeth yn codi arian i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys pethau fel ysbytai, ysgolion ac adeiladau ffyrdd a thai newydd.
Mae'r cyfraddau ar gyfer y gwahanol drethi'n cael eu pennu gan Ganghellor y Trysorlys bob blwyddyn yn natganiad y Gyllideb. Faint o arian sydd ei angen ar gyfer gwasanaethau'r wlad fydd yn penderfynu ai cynyddu, gostwng, ynteu aros yr un fath y bydd y dreth. Er enghraifft, os oes angen gwario mwy o arian cyhoeddus ar ysbytai, yna, fe allai'r trethi godi.
Dyma grynodeb o'r trethi y gallech chi ddod ar eu traws:
Bydd Treth Incwm yn effeithio ar bawb ohonom fwy neu lai. Nid dim ond o'ch enillion chi y bydd y dreth yn cael ei thynnu - mae'n berthnasol hefyd i'r llog ar gynilion, incwm buddsoddi a rhai budd-daliadau.
Bydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) yn cael eu tynnu o'ch enillion os enillwch chi fwy na swm penodol. Bydd y rhain yn mynd tuag at Bensiwn y Wladwriaeth ac yn help i dalu am fuddiannau eraill.
Os na fyddwch chi'n talu'r cyfraniadau'n rheolaidd, fe allech chi golli'ch hawl i fuddiannau eraill, megis y Lwfans Ceisio gwaith a'r Tâl Salwch Statudol. Mae'n bosib hefyd na fyddwch chi'n derbyn Pensiwn llawn y Wladwriaeth pan fyddwch chi'n ymddeol.
Bydd y llywodraeth yn cadw golwg ar faint o gyfraniadau a wnewch chi drwy roi rhif Yswiriant Gwladol unigryw i chi unwaith y byddwch chi'n cyrraedd 16 oed. Bydd angen y rhif hwn arnoch chi pan fyddwch chi'n dechrau gweithio neu'n dechrau hawlio budd-daliadau. Bydd eich cyflogwr yn cyfrifo faint o YG y mae'n rhaid i chi ei dalu ac yn tynnu'r arian o'ch cyflog.
Mae'n bosib y byddwch chi'n gallu hawlio Yswiriant Gwladol yn ôl os credwch fod arian wedi'i dynnu o'ch cyflog cyn i chi gael eich pen-blwydd yn 16 oed neu os credwch nad ydych chi wedi ennill digon.
Os ydych chi'n fyfyriwr a chithau ond yn gweithio yn ystod y gwyliau, fyddwch chi ddim yn gallu hawlio Yswiriant Gwladol yn ôl yn yr un ffordd â Threth Incwm.
Gosodir y Dreth Gyngor gan awdurdodau lleol er mwyn helpu i dalu am wasanaethau lleol megis yr heddlu a'r gwasanaeth casglu sbwriel. Mae'n debyg y bydd rhaid i chi dalu rhywfaint o Dreth Gyngor os ydy'ch cartref ar rent neu os mai chi yw'r perchennog.
Os ydych chi'n fyfyriwr amser llawn ac yn rhannu tw gyda myfyrwyr eraill, fyddwch chi ddim yn gorfod talu Treth Gyngor. Mae'n bosib hefyd y gallech chi gael gostyngiad Treth Gyngor os ydych chi ar gynllun hyfforddi megis Prentisiaeth.
Bydd y Dreth ar Werth (TAW) yn effeithio ar rai ohonom hefyd. Bydd y dreth hon yn cael ei chodi ar lawer o'r nwyddau y byddwch chi'n eu prynu bob dydd, megis nwyddau trydanol, rhai mathau o ddillad a bwyd a diod mewn bwytai. Fel arfer, bydd y dreth wedi'i chynnwys yn y swm a ddangosir ar y label pris, ond weithiau, fe gewch chi fil neu ddatganiad sy'n dangos y TAW ar wahân - ar fil ffôn symudol er enghraifft. Nid yw hyn yn golygu eich bod wedi talu swm ychwanegol - y cyfan mae'n ei ddangos yw faint o'r cyfanswm oedd yn TAW.
Os ydych chi'n berchen ar gar neu feic modur, rhaid i chi dalu treth cerbyd bob blwyddyn. Bydd faint dalwch chi'n dibynnu ar ba fath o gar sydd gennych a pha mor garedig wrth yr amgylchedd yw eich cerbyd.
Bydd y tanwydd ddefnyddiwch chi'n cael ei drethu hefyd. Does dim ots ai disel ynteu betrol di-blwm y byddwch chi'n ei ddefnyddio, bydd canran benodol o bris pob litr o danwydd ddefnyddiwch chi'n cynnwys treth tanwydd. Cyhoeddir unrhyw newid yn lefel y dreth ar danwydd yn natganiad blynyddol y Gyllideb ac fe'i hychwanegir at gost y tanwydd wrth y pwmp petrol.
Os byddwch chi'n mynd ar eich gwyliau mewn awyren, efallai nad ydych chi'n sylweddoli bod cost eich taith yn dibynnu ar lefelau treth. Bydd llywodraeth y wlad rydych chi'n teithio iddi'n codi Treth Teithwyr Awyr. Ychwanegir hyn at gost eich tocyn.
Bydd swm y dreth y byddwch yn ei dalu'n dibynnu ar i ba wlad rydych chi'n teithio, ond bydd tocynnau rhad i wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd yn cynnwys treth o £10.