Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Rhoi eich cynlluniau gyrfa ar waith

Unwaith y byddwch wedi cael syniad o ble’r ydych am fynd gyda’ch gyrfa, mae’n bryd edrych ar sut rydych am gyrraedd yno. Mae’n bwysig meddwl sut rydych am gael y sgiliau a’r cymwysterau fydd eu hangen arnoch.

Pa sgiliau a chymwysterau fydd eu hangen arnoch?

Mae mwy o gyflogwyr yn chwilio am bobl sydd â sgiliau a chymwysterau da. Gall datblygu eich sgiliau eich helpu i roi’r cyfle gorau i chi gael yr yrfa yr hoffech ei chael – ac mae mwy o gyrsiau i chi ddewis ohonynt nag erioed.

Eich dyfodol, eich dewisiadau

Bydd gennych benderfyniadau pwysig i’w gwneud ym Mlwyddyn 9. Bydd gennych ddigon o opsiynau, ond os ydych wedi rhoi’ch bryd ar yrfa benodol efallai y bydd rhai dewisiadau’n arbennig o ddefnyddiol.

Os byddwch yn penderfynu mynd i weithio, mae’n syniad da chwilio am swydd gyda hyfforddiant. Mae prentisiaethau a’r cynllun Amser o’r Gwaith ar gyfer Astudio neu Hyfforddiant yn ddwy ffordd o gael cymhwyster tra’r ydych yn gweithio.

Os ydych yn chwilio am swydd, gall cynlluniau fel Mynediad at Waith eich helpu i feithrin eich sgiliau a gwella eich cyfleoedd.

Addysg uwch a’ch gyrfa

Gall addysg uwch gynnig cyfleoedd gyrfa newydd, ac mae mwy o ffyrdd o fynd i’r coleg neu’r brifysgol nag erioed.

Sbarduno’r broses o gynllunio eich gyrfa

Nid yw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am yrfaoedd. Cadwch lygad allan am ffeiriau a digwyddiadau – yn enwedig rhai sy’n canolbwyntio ar yrfa rydych yn ei hystyried. Cofiwch y gallwch fanteisio mwy arnynt os byddwch wedi paratoi ymlaen llaw. Bydd cynghorydd gyrfa yn gallu rhoi rhywfaint o awgrymiadau i chi ar sut i baratoi.

Os ydych yn dilyn cwrs ac yn bwriadu cael swydd pan fyddwch wedi’i orffen, dechreuwch baratoi ymhell ymlaen llaw. Sicrhewch eich bod yn gofyn am ganiatâd y sawl yr hoffech ei nodi fel canolwr.

Gallwch gael cyngor ar geisiadau swyddi a llunio CV yn ‘Cael eich swydd gyntaf’.

Mae’n ddefnyddiol meddwl am gynllun wrth gefn rhag ofn na fyddwch yn cael eich swydd ddelfrydol ar y cynnig cyntaf. A fyddai astudiaeth bellach yn gwella eich cyfleoedd? Beth am wneud rhywbeth yn eich amser hamdden sy’n gysylltiedig â’r yrfa rydych am ei chael?

Os ydych yn rhy hwyr yn cael eich lle ar gwrs ar ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf, byddai'n ddefnyddiol meddwl am yr hyn y gallwch ei wneud i wella eich rhagolygon am yrfa.

Mae’r opsiynau yn cynnwys cael swydd dros dro, gwirfoddoli neu gael rhywfaint o brofiad gwaith drwy fynd ar leoliad. Gallwch hefyd wneud ymchwil i weithgareddau blwyddyn fwlch.

Cymorth i gynllunio’ch gyrfa

Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud nesaf yn ystod unrhyw gam, mae digon o help ar gael. Ewch i ‘Dod o hyd i yrfa sy’n addas i chi’ i gael syniadau ar lle i fynd i gael cyngor.

Mwy o bethau i'w hystyried

Unwaith y bydd gennych syniad da o ble rydych am fynd gyda’ch gyrfa, mae nifer o bethau eraill y bydd angen i chi eu hystyried – fel cyflog, lleoliad a’r farchnad swyddi.

Pan fyddwch yn barod i chwilio am swydd, mae hefyd yn ddefnyddiol ystyried sut fath o waith fyddai’n addas i chi. A fyddwch yn chwilio am drefniadau hyblyg i’ch helpu gyda threfniadau astudio neu ofal plant? Neu a yw'r syniad o weithio i chi’ch hun yn apelio atoch?

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU