Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lleoliadau gwaith gwirfoddol

Efallai eich bod eisoes wedi gwneud rhywfaint o brofiad gwaith yn yr ysgol, ond gall mynd ar brofiad gwaith arall pan fyddwch yn y coleg neu'r brifysgol fod yn ddefnyddiol wrth i chi gynllunio eich gyrfa - a gallai wella eich cyfleoedd wrth wneud cais am gyrsiau neu swyddi.

Pam gwneud lleoliad gwaith gwirfoddol?

Mae lleoliadau gwaith yn rhoi’r cyfle i chi ddysgu mwy am yr yrfa rydych yn ei hystyried.

Bydd cael rhywfaint o brofiad ymarferol a siarad â phobl sy'n gwneud y swydd yn barod yn rhoi gwell syniad i chi a fyddai'r swydd yn addas i chi ai peidio.

Gallai lleoliad gwaith roi cyfle gwell i chi ragori wrth wneud cais am gyrsiau a swyddi – a gallech gael cysylltiadau a allai eich helpu i gael y swydd rydych eisiau ei chael.

Dod o hyd i leoliad gwaith

Mae llawer o sefydliadau mwy yn hysbysebu lleoliadau ffurfiol neu ‘hyfforddiant galwedigaethol’ ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Mae’r rhain yn dueddol o gynnwys gweithio’n llawn amser am gyfnod sefydlog, fel arfer rhwng chwech a deuddeg wythnos – ond yn aml cânt eu hamseru i gyd-fynd â gwyliau prifysgolion a cholegau.

Os ydych mewn coleg neu brifysgol ar hyn o bryd, holwch y swyddfa gyrfaoedd a allant eich helpu i ddod o hyd i leoliad. Mae nifer o wefannau yn rhoi manylion am leoliadau. Edrychwch yn y papurau cenedlaethol ac ar eu gwefannau, yn enwedig os ydynt yn cyhoeddi erthygl wythnosol ar y maes gwaith y mae gennych ddiddordeb ynddo. Byddai’n ddefnyddiol hefyd edrych ar gylchgronau masnach.

Nid oes dim i’ch rhwystro rhag holi sefydliadau y mae gennych ddiddordeb ynddynt, hyd yn oed os nad ydynt yn hysbysebu. Ni fydd yn hawdd, ond gallai fod yn fuddiol – yn enwedig os na allwch fynd ar leoliad ffurfiol, a bod angen rhywbeth tymor byr neu ran-amser arnoch.

Gallwch wella eich cyfleoedd drwy ffonio sefydliadau a cheisio cael enw’r sawl rydych angen cysylltu ag ef neu hi: mae pobl yn cymryd mwy o sylw o lythyrau a negeseuon e-bost sydd â chyfeiriad personol. Os nad yw hyn yn bosibl, holwch am deitl swydd y sawl y mae angen i chi gysylltu ag ef neu hi.

Beth i chwilio amdano mewn lleoliad

Mae fel arfer yn gwneud synnwyr cael lleoliad yn y maes gwaith yr ydych yn gobeithio mynd iddo. Ond os oes gennych brofiad yn y mae hwn eisoes, a fyddai lleoliad yn gwella eich CV? Gallech gael budd o roi cynnig ar rywbeth gwahanol.

Dylech ystyried safon y lleoliad hefyd. Mae lleoliadau da yn dueddol o:

  • bennu amcanion i chi
  • rhoi adborth neu werthusiad ar y diwedd
  • rhoi cofnod o’r hyn yr ydych wedi'i gyflawni a’r broses o ddatblygu eich sgiliau

Bydd rhai lleoliadau yn cydnabod eich cyflawniadau gyda thystysgrif.

Gwneud cais am leoliad a pharatoi ar gyfer un

Dylech gymryd yr un faint o ofal â phetaech yn gwneud cais am swydd. Ewch i ‘Dod o hyd i'ch swydd gyntaf a gwneud cais' i gael cyngor ar ysgrifennu CVs, llythyrau esboniadol a mwy.

Bydd paratoi digon yn eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich lleoliad. Canfyddwch gymaint ag y gallwch am yr hyn y mae’r sefydliad yn ei wneud.

Mae hefyd yn bwysig nodi’n glir yr hyn rydych am ei gael o’r lleoliad – a gwneud y cyflogwr yn ymwybodol o hynny hefyd. Os cewch fentor, siaradwch am hyn gydag ef neu hi.

Mynd ar leoliad fel rhan o gwrs coleg neu brifysgol

Mae rhai cyrsiau coleg a phrifysgol yn cynnig lleoliad gwaith fel rhan o'r maes llafur.

Gallai hyn olygu fod eich marciau’n rhannol seiliedig ar brosiect rydych yn ei gwblhau ar gyfer cyflogwr. Neu, mewn addysg uwch, gellir dewis dilyn cwrs rhyngosod (lle mae eich cyfnod yn y brifysgol neu’r coleg yn gweithio o amgylch lleoliad gwaith – sy’n para blwyddyn lawn yn aml).

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddewisiadau ar ôl gadael ysgol yn ‘Dysgu mewn coleg neu chweched dosbarth’. Gweler ‘Mynd i brifysgol ac addysg uwch’ i gael rhagor o wybodaeth am gynllunio eich llwybr i addysg uwch. Fe welwch ddolen i wasanaeth chwilio UCAS, a gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i gyrsiau rhyngosod yn y pwnc rydych am ei astudio.

Allwch chi gael unrhyw arian?

Byddwch fel arfer yn cael cyflog yn ystod lleoliad ar gwrs rhyngosod, ond ni fyddwch yn cael cyflog ar leoliadau eraill yn aml - er y gallech gael costau treuliau.

Mae’n bwysig cofio yn y tymor hir y gall profiad perthnasol fod yn fwy gwerthfawr nag arian yn y tymor byr.

Lleoliadau gwaith a budd-daliadau

Gall gwneud gwaith cyflogedig pan fyddai disgwyl i chi fel arfer fod yn astudio effeithio ar yr arian rydych yn ei gael i aros mewn addysg ôl 16. Holwch swyddfa cymorth i fyfyrwyr eich coleg.

Bydd llai o gymorth ar gael i fyfyrwyr addysg uwch sydd ar leoliad cyflogedig fel rhan o gwrs rhyngosod os byddwch yn treulio llai na 10 wythnos yn astudio ar sail amser llawn yn eich prifysgol neu goleg. Holwch eich awdurdod lleol i gael gwybod mwy (neu’r cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, os mai nhw wnaeth ddelio â'ch cais yn uniongyrchol).

Dysgu yn y gwaith

Os oes gennych ddiddordeb mewn mwy o ffyrdd i wella eich sgiliau yn y gwaith, mae amrywiaeth o ddewisiadau dysgu yn y gwaith y gallwch ymchwilio iddynt.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU