Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hawliau cyflogaeth i bobl ifanc

Os ydych chi'n ystyried cael swydd, neu os oes gennych un yn barod, mae rhai cyfyngiadau ar yr hyn y gallwch chi ei wneud, ble y gallwch ei wneud ac am ba mor hir y cewch wneud hynny bob wythnos.

Pa mor hen y mae'n rhaid i chi fod i gael swydd?

Yn gyffredinol, os ydych chi dan 13 oed, dim ond dan amgylchiadau arbennig gyda chaniatâd eich awdurdod lleol y gallwch chi gael swydd. Ar ôl i chi gyrraedd 13 oed, dim ond gwaith ysgafn gewch chi ei wneud. Mae hyn yn golygu na chewch chi ddim gwneud unrhyw fath o waith a allai effeithio ar eich diogelwch neu a allai amharu ar eich addysg. Mae'r pethau y cewch chi eu gwneud yn cynnwys gwarchod plant neu wneud rownd bapur.

Mae'r cyfyngiadau hyn yn para nes eich bod yn cyrraedd 16 oed. Bryd hynny, byddwch yn dod yn weithiwr ifanc, sy'n golygu bod gennych fwy o ddewis o ran y swyddi y gallwch eu gwneud. Os ydych chi'n 18 neu'n hŷn, byddwch yn cael yr un hawliau gweithio ag oedolion.

Oriau gwaith

Mae rheolau penodol ynghylch ar ba amserau o'r dydd y gallwch weithio ac am ba mor hir. Bydd y rhain yn amrywio yn dibynnu ar eich oedran.

Plant 14 oed
Mae llawer o reolau ynghylch oriau gwaith plant, ond dyma'r rhai sylfaenol:

  • yn ystod tymor yr ysgol, dim ond am ddwy awr yn ystod dyddiau'r wythnos ac ar ddydd Sul, ac am bum awr ar ddydd Sadwrn, y cewch weithio
  • yn ystod gwyliau'r ysgol, cewch weithio am hyd at bum awr ar ddiwrnod ysgol neu ar ddydd Sadwrn, a mwy na dwy awr ar ddydd Sul
  • chewch chi ddim gweithio cyn 7 am nac ar ôl 7 pm ar ddiwrnod ysgol

Plant a phobl ifanc 15 a 16 oed

Os ydych chi'n 15 neu 16 oed ac yn gweithio tra eich bod yn dal i fynd i'r ysgol, bydd eich hawliau bron yn union yr un fath â'r rheolau ar gyfer pobl ifanc 14 oed. Fodd bynnag, fe gewch chi weithio hyd at wyth awr ar ddydd Sadwrn neu yn ystod gwyliau'r ysgol.

Pobl ifanc 16 a 17 oed
Os nad ydych chi yn yr ysgol rhagor a'ch bod yn 16 neu 17 oed, yn ôl y gyfraith, rydych chi'n weithiwr ifanc. Gan na fyddwch yn yr ysgol rhagor, bydd llai o gyfyngiadau ar pryd y cewch weithio ac am ba mor hir, ond bydd ambell reol o hyd.

Dim ond am wyth awr bob dydd y cewch weithio, neu am gyfanswm o 40 awr dros wythnos gyfan. Fel arfer, chewch chi ddim gweithio dros nos chwaith, ac eithrio mewn rhai amgylchiadau penodol.

Gan eich bod wedi cyrraedd oedran gadael ysgol, efallai y gwelwch fod cyflogwyr yn fwy parod i gynnig cyflogaeth ran-amser neu amser llawn i chi. Hefyd, ni chewch eich cyfyngu i 'waith ysgafn' yn unig, felly cewch weithio mewn llefydd fel siop brysur, cegin bwyty neu fel gweinydd/es.

Yr isafswm cyflog

Unwaith y byddwch yn cyrraedd 16 oed ac yn gadael yr ysgol, byddwch yn gymwys i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Bydd swm yr isafswm cyflog yn dibynnu ar beth yn union yw eich oedran.

Os ydych chi'n gwneud Prentisiaeth, ni fyddwch yn gymwys i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol nes byddwch yn 18 oed ac wedi cwblhau deuddeg mis cyntaf eich hyfforddiant yn y gwaith.

Newidiodd cyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar 1 Hydref 2007, felly sicrhewch eich bod yn cael eich talu’r swm cywir.

Amser o'r gwaith a gwyliau

Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn, wedi gadael yr ysgol ac yn gweithio'n llawn amser, mae gennych hawl i isafswm o bedair wythnos o wyliau blynyddol, er ei bod yn bosib y bydd rhai cyflogwyr yn cynnig mwy na hyn.

Os mai ychydig o hyfforddiant y bydd eich cwmni'n ei gynnig, neu os nad yw'n cynnig hyfforddiant o gwbl, gallwch hefyd gael amser o'r gwaith i weithio ac astudio os byddwch yn penderfynu cymryd unrhyw gyrsiau addysg bellach.

Iechyd a diogelwch yn y gwaith

Mae gan bob cyflogwr gyfrifoldeb i wneud yn siŵr bod iechyd a diogelwch eu gweithwyr yn cael eu gwarchod yn y gwaith. Golyga hyn y dylech ddisgwyl hyfforddiant trylwyr sy'n dangos unrhyw beryglon y gallech ddod ar eu traws wrth weithio, a'r ffyrdd cywir o wneud eich swydd yn ddiogel.

Mae gennych hefyd gyfrifoldebau iechyd a diogelwch fel gweithiwr. Ymhlith y rhain, mae:

  • sicrhau eich bod yn defnyddio'r dulliau priodol i gyflawni tasgau, megis codi bocsys trwm neu ddefnyddio cyllyll miniog
  • peidio â rhoi unrhyw un arall mewn perygl o anaf
  • sicrhau nad ydych yn gwisgo unrhyw ddillad neu emwaith sy'n anaddas ar gyfer y gwaith y byddwch yn ei wneud
  • rhoi gwybod i'ch rheolwr am unrhyw ddamweiniau neu anafiadau

Cael datganiad hawliau cyflogaeth personol

Os hoffech gael datganiad personol o'ch hawliau cyflogaeth, mae gan Directgov wasanaeth rhyngweithiol y gellir ei ddefnyddio i gynhyrchu un y gallwch ei argraffu a'i gadw.

Gofynnir ychydig o gwestiynau i chi am eich oedran, eich man gwaith a'ch amgylchiadau personol. Ar ôl i chi ateb yr holl gwestiynau, bydd y gwasanaeth rhyngweithiol yn cynhyrchu rhestr o'r cyfyngiadau gwaith sy'n berthnasol i chi o ran pethau fel oriau gwaith, amser o'r gwaith a chyflog.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU