Roedd pobl ifanc Caint eisiau gwneud yn siŵr y byddai'r arian a gawsant gan y Gronfa Ieuenctid yn helpu'r rhai nad ydynt fel arfer yn defnyddio clybiau neu ganolfannau ieuenctid, felly aethant ati i hyrwyddo'r cynllun ar fysiau, ar orsafoedd radio lleol ac ar gefn tocynnau sinema.
Gofynnwyd i bobl ifanc anfon disgrifiadau byr o unrhyw syniadau a oedd ganddynt at Gyngor Swydd Caint. Edrychodd panel ieuenctid, a oedd yn cynnwys pobl ifanc o wahanol gefndiroedd, ar y syniadau. Wedyn, gofynnwyd i'r sawl a oedd wedi gwneud y cynigion yr oeddent yn eu hoffi i ddod am gyfweliad ac i wneud cais manylach.
Gallai unrhyw un a oedd wedi cyrraedd y cam ymgeisio hwn ofyn am gymorth gyda phethau fel cyfrifo faint fyddai'r prosiect yn debygol o'i gostio ac ym mhle y byddai'n cael ei leoli.
Roedd dwy ferch o Gillingham a oedd wedi cael eu hyfforddi ym maes cerddoriaeth a dawns eisiau cynnal dosbarthiadau dawns am ddim i bobl ifanc eraill yn yr ardal. Defnyddiwyd y dyfarniad o £3,000 i dalu am rentu neuadd leol i gynnal y dosbarthiadau, ac fe'i defnyddiwyd hefyd i dalu am gost rhan derfynol cymhwyster dysgu un o'r hyfforddwyr dawns.
Gofynnodd grŵp o tua 12 o famau ifanc rhwng 14 ac 16 oed am gymorth i dalu am ofal plant fel y gallent barhau â'u haddysg mewn dosbarthiadau nos. Defnyddiwyd arian gan y gronfa hefyd i dalu am diwtoriaid i'w helpu i ddysgu am faterion yn ymwneud ag iechyd.
Roedd rhywun o Chatham eisiau man cyfarfod diogel ble gallai pobl ifanc sy'n lesbiaid, yn hoyw ac yn ddeurywiol ddod at ei gilydd. Anfonodd ddisgrifiad byr o'i syniad ac yna ymunodd dau o'i ffrindiau ag ef i wneud y cais. Dyfarnwyd arian i rentu lle i'r grŵp ei ddefnyddio, ac i ddarparu deunyddiau eraill.
Roedd bachgen yn ei arddegau a oedd wedi bod mewn gofal yn ei chael yn anodd rhannu ei deimladau. Roedd arno eisiau rhywun y gallai siarad ag ef neu hi yn yr ysgol pan fyddai'n teimlo'n benisel.
Anfonodd ei syniad at y Panel Ieuenctid, ac roedden nhw'n ei hoffi. Yna, gwnaed cais manylach ar ei ran er mwyn talu am y costau o ddarparu cwnselwyr a fyddai'n cynnig cefnogaeth emosiynol i bobl ifanc mewn chwe ysgol leol.
Os yw'r storïau hyn wedi rhoi syniad i chi, cysylltwch â'ch awdurdod lleol i weld a allwch ddefnyddio arian y Gronfa Ieuenctid i wireddu'r syniad hwnnw.