Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sêr sain y dyfodol

Daeth grŵp o bobl ifanc sy'n byw yn Salford at ei gilydd ar ôl gweithio ar brosiect radio. Roedd y rhan fwyaf ohonynt wedi gadael cartref oherwydd problemau teuluol ac yn byw yn Salford Foyer, lle sy'n darparu llety i bobl 16 i 25 mlwydd oed.

Cronfeydd Ieuenctid yn taro'r tonfeddi

Roedd y grŵp wedi cael mwynhad gwirioneddol o weithio ar y prosiect radio ac roeddent eisiau datblygu eu sgiliau cyfryngau drwy gael mwy o hyfforddiant a chyfarpar.

Gofynasant i weithwyr y prosiect Foyer a allent eu helpu. Cawsant ystafell i'w defnyddio, a chyda chefnogaeth gweithwyr y Foyer, gwnaethant gais am gyllid gan Gronfa Cyfalaf Ieuenctid Salford, sy'n rhan o Wasanaeth Ieuenctid Salford.

Beth a brynwyd gyda'r arian

Rhoddwyd mwy na £50,000 i'r prosiect i dalu am ganolfan gyfryngau a stiwdio recordio ar gyfer holl bobl ifanc Salford.

Cawsant gyllid hefyd i hyfforddi grŵp preswylwyr y Foyer i ddod yn dechnegwyr stiwdio.

Golyga'r prosiect bod y pobl ifanc yn eu harddegau mewn tai gyda chefnogaeth bellach eisiau dysgu sgiliau newydd yn y stiwdio.

Mae pobl ifanc sy'n byw yn y Foyer wedi dod i adnabod pobl na fyddent wedi'u cyfarfod fel arall, ac maent yn mwynhau cymryd cyfrifoldeb dros eu swyddogaethau newydd.

Ydy'r prosiectau hyn yn eich ysbrydoli?

Os yw'r storïau hyn wedi rhoi syniad i chi, cysylltwch â'ch awdurdod lleol i weld a allwch ddefnyddio arian y Cronfeydd Ieuenctid i wireddu'r syniad hwnnw.

Additional links

Gwneud cais am arian

Os ydych am wneud cais am arian Cronfeydd Ieuenctid, bydd angen i chi gysylltu â'ch awdurdod lleol

Cysylltiadau defnyddiol

need2know

Popeth y mae angen i chi ei wybod gyda need2know

Allweddumynediad llywodraeth y DU