Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Prosiectau ieuenctid ar waith yn Wiltshire

Postiwyd gwybodaeth i bobl ifanc yn Wiltshire am y Cronfeydd Ieuenctid a hysbysebwyd y cynllun ar radio lleol. Dyma sampl o’r prosiectau a dderbyniodd arian.

Clwb pysgota

Clywodd grŵp o fechgyn yn ardal Bemerton Heath yng Nghaersallog am Gronfeydd Ieuenctid gan weithwyr ieuenctid yn eu hystâd. Nid oes gan yr ardal lawer i'w gynnig i bobl ifanc yn eu harddegau, ac roedd y bechgyn wedi syrffedu ar sefyllian o gwmpas ar y strydoedd. Roedd rhai ohonynt wedi dechrau mynd i drwbwl gyda'r heddlu.

Penderfynodd y grŵp siarad â gweithwyr yn eu canolfan ieuenctid leol i weld a fyddent yn gallu eu helpu i ddechrau clwb pysgota. Roedd ar y bechgyn angen arian i brynu gwialenni ac offer pysgota er mwyn iddynt allu symud oddi wrth eu hamgylchoedd arferol a mwynhau tipyn o lonydd wrth yr afon.

Helpodd gweithwyr yn y ganolfan hwy drwy'r broses o wneud cais, a chawsant £2,700 i brynu cyfarpar i'w clwb.

Deciau CD

Roedd gan fachgen lleol yn ei arddegau ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth, ac roedd yn dymuno dysgu eraill sut i fod yn DJ yn ei ganolfan ieuenctid ym Malmesbury. Gyda chefnogaeth gweithwyr ieuenctid, gwnaeth gais llwyddiannus am bron i £1,650 i brynu set o ddeciau CD.

Roedd y panel a roddodd yr arian yn hoff o'r ffaith ei fod yn eglur iawn am yr hyn yr oedd eisiau ei wneud wrth wneud ei gais. Gallodd ddangos y byddai gan bobl eraill yn eu harddegau ddiddordeb mewn mynd i'r ganolfan ieuenctid am eu bod eisiau dysgu ganddo.

Gliniaduron di-wifr

Siaradodd gweithwyr o brosiect eglwys o'r enw Shine â phobl ifanc yn eu harddegau oedd yn byw ar safle teithwyr cyfagos i ddarganfod beth fyddai'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w bywydau.

Mae'r safle mewn ardal arunig, felly roedd yn anodd i bobl ifanc sy'n byw yno deithio i'r llyfrgelloedd i ddefnyddio cyfrifiaduron a mynd ar y rhyngrwyd i'w helpu gyda gwaith ysgol.

Rhoddwyd bron i £9,500 iddynt i dalu am gysylltiad band eang di-wifr i'r safle a gliniaduron.

To newydd i Glwb Ieuenctid Atworth

Roedd y bobl ifanc yn eu harddegau sy'n mynychu Clwb Ieuenctid Atworth wedi cael llond bol ar eu to oedd yn gollwng dŵr. Gwnaethant ddarganfod faint fyddai'n ei gostio iddynt gael to newydd, a gwnaethant gais am £7,500.

Dywedasant y byddai hyn yn golygu y gallai'r ganolfan ieuenctid aros ar agor am y 15-20 mlynedd nesaf. Roedd y panel ieuenctid sy'n dyfarnu'r grantiau'n meddwl bod hyn yn gwneud synnwyr ariannol da, a rhoddwyd yr arian iddynt.

Ydy'r prosiectau hyn yn eich ysbrydoli?

Os yw'r storïau hyn wedi rhoi syniad i chi, cysylltwch â'ch awdurdod lleol i weld a allwch ddefnyddio arian y Cronfeydd Ieuenctid i wireddu'r syniad hwnnw.

Additional links

Gwneud cais am arian

Os ydych am wneud cais am arian Cronfeydd Ieuenctid, bydd angen i chi gysylltu â'ch awdurdod lleol

Cysylltiadau defnyddiol

need2know

Popeth y mae angen i chi ei wybod gyda need2know

Allweddumynediad llywodraeth y DU