Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Cronfeydd Ieuenctid ar waith - mwy o enghreifftiau

Mae'r cronfeydd Cyfleoedd Ieuenctid a Chyfalaf Ieuenctid yn helpu pobl ifanc yn eu harddegau ledled y wlad gydag amrywiaeth eang o brosiectau ar gyfer eu hardal leol.

Caerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf

Mae grŵp o'r enw Manic Skaters yn sefydlu parc sglefrfyrddio mewn man a arferai fod â phroblem o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cawsant gefnogaeth y gymuned leol yn dilyn ymweliad â sioe deithiol sglefrfyrddio genedlaethol.

Bolton

Penderfynodd rhai pobl ifanc yn eu harddegau yn Bolton eu bod eisiau prynu teclyn codi er mwyn i bobl ifanc anabl allu defnyddio'r trampolîn yn y Lads & Girls Club. Gwnaethant DVD i gyflwyno eu cynnig ac i egluro pam yr oedd arnynt angen yr arian a sut y byddai'r teclyn codi'n eu helpu i gymryd rhan mewn gweithgareddau ffitrwydd diddorol.

Dudley

Mae pobl ifanc sydd eisiau gwneud ffilmiau yn defnyddio eu harian i ffilmio rhaglen ddogfen am dyfu i fyny yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr. Byddant yn cyfweld pobl ifanc yn eu harddegau o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd am faterion bywyd go iawn sy'n effeithio ar bobl ifanc.

Kingston

Adeiladwyd cae chwaraeon pob tywydd yn ardal fwyaf difreintiedig Kingston. Bu pobl ifanc yn ymgyrchu i gael y cae ers cryn amser, a daethant at ei gilydd i gyflwyno eu cynnig gerbron bwrdd y grant.

Kirklees

Mae mamau ifanc ym Meltham yn cynnal cyrsiau chwe wythnos mewn dawns ac iechyd a harddwch. I ddathlu eu llwyddiant, trefnwyd trip ganddynt i ganolfan bowlio deg leol.

Mae hyfforddiant a chyngor ar berfformio rap a barddoniaeth yn helpu pobl ifanc yn Royds Hall sy'n bwriadu gwneud sioe radio i'w darlledu ar y rhyngrwyd.

Mae grŵp o'r enw Chefs R Us yn trefnu cwrs coginio wyth wythnos. Byddant yn defnyddio eu sgiliau newydd i wneud pryd arbennig o fwyd i'w ffrindiau a'u teuluoedd yn Holme.

Llundain

Mae pobl ifanc anabl yn Islington yn trefnu noson clwb bob tri mis yn Bridge School yn Clerkenwell.

Bydd eu dyfarniad Cronfa Ieuenctid yn talu am logi cyfarpar DJ, yn ogystal ag adeiladau a chludiant sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae'r digwyddiadau'n gyfle i'r rhai yn eu harddegau ddod at ei gilydd a chymdeithasu gyda'u ffrindiau.

Manceinion

Mae'r Prosiect Young People's Showcase yn bwriadu defnyddio gwahanol gyfryngau, gan gynnwys radio lleol a phosteri, i roi sylw i'w talentau a'u cyflawniadau.

Talodd y Cronfeydd Ieuenctid am offer garddio a chyfarpar cadw rhandir, a helpu pobl ifanc leol yn eu harddegau oedd yn dymuno tyfu a dosbarthu eu llysiau organig eu hunain.

Gogledd Huddersfield

Derbyniodd pobl ifanc leol yr arian yr oedd ei angen arnynt i sefydlu clwb cyfrifiaduron ar ôl ysgol yng Nghanolfan North Chestnut.

Gogledd Swydd Lincoln

Derbyniodd y prosiect Base arian ar gyfer lleoliad celfyddydau ieuenctid, i'w ddefnyddio a'i reoli gan bobl ifanc leol dan anfantais. Mae'r grŵp hefyd yn bwriadu gwneud ffilm ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Scunthorpe yn 2007.

Plymouth

Sefydlodd pobl ifanc sy'n gadael gofal y ganolfan galw heibio Not Noodles, lle'r oeddent yn cyfarfod bob wythnos i goginio a mwynhau pryd bwyd iach. Maent yn gwahodd pobl ifanc eraill i ymuno â hwy, yn ogystal â siaradwyr gwadd a fydd yn siarad am bynciau amserol.

Prynodd grŵp o'r enw Wheels on the Beach dair cadair olwyn arbenigol oherwydd bod eu rhai hwy'n rhy drwm ac yn suddo yn y tywod. Gyda'r cadeiriau newydd, gall pobl ifanc anabl yn eu harddegau gael hwyl ar y traeth. Maent hefyd yn bwriadu sefydlu system benthyca i rannu'r cadeiriau.

Swydd Amwythig

Mae cyrsiau adeiladu tîm a sgiliau goroesi ymysg y gweithgareddau heriol a drefnir gan yr Young Men's Group lleol.

Gwlad yr Haf

Atgyweiriwyd maes chwarae arwyneb caled awyr agored fel y gallai aelodau Clwb Ieuenctid y Bay Centre Dynamos chwarae gemau, ynghyd â gweithgareddau bwyta'n iach a ffitrwydd o fewn y ganolfan.

Hefyd, troswyd swyddfa wag yn ganolfan galw heibio i bobl ifanc.

De Swydd Gaerloyw

Prosiect i atgyweirio cwch cul a ariannwyd gan y Gronfa Cyfalaf Ieuenctid. Bellach, mae grwpiau ieuenctid, gan gynnwys pobl ifanc ag anableddau dysgu, yn defnyddio'r cwch ac yn helpu i'w gynnal a'i gadw.

Gyda'i gilydd, llwyddasant i adeiladu cragen newydd, hyd yn oed.

Sunderland

Mae Streetz Café yn fan cyfarfod yng Nghanol Tref Houghton a ddatblygwyd ac a redir gan bobl ifanc mewn partneriaeth â gwasanaethau ieuenctid lleol.

O ganlyniad i gyllid, gallodd Young Volunteers @ the Box gynnig ystod eang o gyfleoedd adloniant a hamdden i bobl ifanc yn ne'r ddinas.

Ydy'r prosiectau hyn yn eich ysbrydoli?

Os yw'r storïau hyn wedi rhoi syniad i chi, cysylltwch â'ch awdurdod lleol i weld sut y gallwch ddefnyddio'r Cronfeydd Ieuenctid i wireddu'r syniad hwnnw.

Additional links

Gwneud cais am arian

Os ydych am wneud cais am arian Cronfeydd Ieuenctid, bydd angen i chi gysylltu â'ch awdurdod lleol

Cysylltiadau defnyddiol

need2know

Popeth y mae angen i chi ei wybod gyda need2know

Allweddumynediad llywodraeth y DU