Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 9 Chwefror 2012

Beth yw'r Cronfeydd Ieuenctid?

'Cronfeydd Ieuenctid' yw'r enw a roddir i'r Gronfa Cyfleoedd Ieuenctid a'r Gronfa Cyfalaf Ieuenctid. Mae miliynau o bunnau ar gael i wneud gwell gweithgareddau i bobl ifanc yn eu harddegau yn Lloegr, a gallwch chi helpu i benderfynu ym mhle y bydd yr arian yr cael ei wario.

Arian ar gyfer eich syniadau

Pan gynhaliodd y llywodraeth arolwg am gyfleusterau lleol i bobl ifanc yn 2005, dwedoch chi yr hoffech gael mwy o ddewis o ran pa brosiectau fyddai'n cael eu rhoi ar waith. Felly, er mwyn gwneud yn siŵr y caiff eich llais ei glywed, cyflwynwyd y Cronfeydd Cyfleoedd Ieuenctid a Chyfalaf Ieuenctid. Mae’r ddau bot o arian yn rhoi cyfle i chi ailwampio tipyn ar eich cyfleusterau lleol.

Rhaid gwario’r arian i gyd erbyn mis Mawrth 2011. Dyma'r pethau gorau:

  • chi sy'n meddwl am y syniadau
  • pobl ifanc fel chi sy'n penderfynu pwy sy'n cael beth
  • rhaid i'ch awdurdod lleol wario arian Cronfa Ieuenctid ar brosiectau ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau yn eich ardal chi

Mae'r arian ar gael i helpu pobl 13-19 mlwydd oed yn Lloegr fel chi i wneud y canlynol:

  • chwarae rhan arweiniol mewn gwella cyfleusterau ieuenctid
  • mwynhau eich bywyd a'ch amser sbâr
  • dysgu sgiliau newydd sy'n edrych yn wych ar CV neu ffurflen gais i goleg

Gwnewch gais am Gronfeydd Ieuenctid drwy eich awdurdod lleol - does dim ots pwy ydych chi, gall pawb ddweud eu dweud a chymryd rhan.

Yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw:

  • dangos sut y gall eich prosiect wella eich ardal
  • llenwi'r pecyn cais
  • ei anfon at eich awdurdod lleol

Peidiwch ag anghofio gwirio'r amodau cyllid i wneud yn siŵr bod eich syniad yn gymwys.

Os yw pawb yn eich grŵp dan 18, efallai y bydd rhaid i chi gael oedolyn i lofnodi'r ffurflen.

Pwy sy'n penderfynu pwy sy'n cael yr arian?

Mae Cronfeydd Ieuenctid ar gael i bob person ifanc yn ei arddegau sy'n byw yn Lloegr

Pobl ifanc sydd hefyd yn penderfynu i ble'r aiff yr arian. Mae rhai awdurdodau lleol wedi sefydlu paneli o bobl ifanc yn eu harddegau o'u hardal hwy i helpu i ddewis y prosiectau gorau. Mae rhai eraill yn holi holl bobl ifanc eu hardal i weld ym mhle y maent yn meddwl y dylid gwario'r arian.

Bydd gan eich awdurdod lleol 'gydlynydd Cronfeydd Ieuenctid', neu 'gydlynydd YOF', yn gweithio iddynt. Byddant yn gallu dweud wrthych sut y gwneir y penderfyniad yn eich ardal. Os ydych chi eisiau cymryd rhan gyda'ch Panel Ieuenctid lleol, darganfyddwch sut y mae aelodau eraill yn meddwl eu bod wedi elwa drwy wylio fideo

A fyddai’n fuddiol i chi?

Peidiwch â phoeni os nad ydych erioed wedi gwneud rhywbeth fel hyn o'r blaen. Mae meddwl am gynllun ar gyfer prosiect yn waith i nifer o bobl, a gallwch benderfynu faint o gyfrifoldeb yr hoffech ei gymryd.

Y peth da am Gronfeydd Ieuenctid yw y gallwch ymuno â'ch ffrindiau a gweld beth sydd ar goll yn eich ardal chi. Gallwch helpu i benderfynu pa weithgareddau a chyfleusterau y mae eu hangen, cymryd rhan a gweld eich cynllun yn cael ei wireddu.

Os ydych chi'n gwybod bod angen rhai gwelliannau ar eich cymdogaeth, ond na allwch feddwl am syniad penodol, edrychwch ar ein tudalennau o enghreifftiau bywyd go iawn i weld pa brosiectau sydd eisoes yn cael eu rhedeg o gwmpas y wlad a sut mae arian Cronfa Ieuenctid wedi'u helpu hwy.

Beth yw ystyr y llythrennau YOF ac YCF?

Ystyr YOF yw Youth Opportunity Fund neu Gronfa Cyfleoedd Ieuenctid. Fel arfer, rhoddir arian YOF i'r prosiectau eu hunain a gellir defnyddio'r arian i brynu cyfarpar.

Ystyr YCF yw Youth Capital Fund (Cronfa Cyfalaf Ieuenctid). Mae prosiectau YCF yn tueddu i fod yn fwy o ran maint na rhai YOF. Maent yn talu am yr adeiladau a'r cyfleusterau y mae eu hangen ar bob prosiect, yn hytrach na chost rhedeg prosiect.

Does dim rhaid i chi boeni am y termau. Y peth pwysicaf yw eich bod yn meddwl am syniad da ac yn cysylltu â'ch awdurdod lleol. Bydd eu cydlynydd Cronfeydd Ieuenctid yn gallu'ch helpu chi gyda hyn.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Gwneud cais am arian

Os ydych am wneud cais am arian Cronfeydd Ieuenctid, bydd angen i chi gysylltu â'ch awdurdod lleol

Cysylltiadau defnyddiol

need2know

Popeth y mae angen i chi ei wybod gyda need2know

Allweddumynediad llywodraeth y DU