Os ydych chi rhwng 13 a 19 oed ac yn chwilio am gyllid ar gyfer prosiect sy'n ymwneud â'r cyfryngau, efallai y byddwch yn dymuno gwneud cais am arian gan gynllun Mediabox. Gallai fod yn brosiect sy'n ymwneud â theledu neu radio, gallai fod yn ffilm neu'n brosiect ar bapur neu ar-lein - chi biau'r dewis!
Cynllun yw Mediabox sy'n rhoi arian i bobl ifanc ddifreintiedig yn byw yn Lloegr sydd â syniadau am brosiect cymunedol creadigol.
Mae Mediabox yn cael ei weithredu ar wahân i'r Gronfa Cyfleoedd Ieuenctid a'r Gronfa Cyfalaf Ieuenctid, felly mae'r broses ymgeisio'n wahanol.
Os yw'ch cais yn llwyddiannus, bydd modd i chi gael llawer o wybodaeth a chyngor defnyddiol gan arbenigwyr Mediabox er mwyn gwneud eich prosiect hyd yn oed yn well.
Mae gwahanol fathau o gyllid ar gael. Gallwch ddefnyddio'r arian i ddatblygu syniad creadigol newydd neu i hyrwyddo'r gwaith yr ydych wedi ei wneud yn barod i gynulleidfa fwy. Y grantiau yw:
Mae Mediabox am i'r holl brosiectau y mae'n eu noddi gael eu gweld a'u clywed gan gymaint o bobl â phosib. Felly os byddwch yn ymgeisio, ystyriwch sut y gallech ei hyrwyddo'n genedlaethol yn ogystal ag yn lleol.
Os ydych chi'n cael grant, cofiwch y bydd Mediabox yn rhoi cymorth i chi gyda'r holl drefniadau ymarferol a'r agweddau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â chyhoeddi'ch gwaith ym myd y cyfryngau.
Felly, pa fath o brosiectau allwch chi eu creu gyda grant Mediabox? Dyma rai syniadau:
Y syniad yw y gallwch ddefnyddio eich prosiect i wneud y canlynol:
I wneud cais am grant Mediabox, ac i gael mwy o awgrymiadau am sut i wneud yn siŵr bod eich cais yn wahanol i un pawb arall, ewch i wefan Mediabox.