Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Trawsgript fideo: Cyflwyniad i Baneli Ieuenctid

Sut wnaethoch chi glywed am y Cronfeydd Ieuenctid?

- "Dywedodd un o'r gweithwyr ieuenctid wrthyf am y gronfa ac oherwydd i mi fod ar fath gwahanol o banel grant cyn hynny, dyma nhw'n dweud y byddai'n siŵr o fod yn eitha da i mi."

- "Wel, cafodd fy chwaer ei hethol arno yn y ddwy flynedd diwethaf."

- "Rydyn ni i gyd yn dod o gefndiroedd gwahanol. Mae ambell un ohonon ni'n dod o fudiadau gwirfoddol. Mae eraill yn dod o Gyngor y Ddinas, sy'n edrych ar ôl pobl ifanc."

- "Cefais lythyr gan mai fi gafodd fy newis gan fy grŵp - oherwydd mai fi lofnododd y ffurflenni ac ati. Nhw wnaeth fy newis i ddod yma."

- "Yn bersonol, fe wnes i glywed amdanynt gan fy mod yn gweithio gydag elusen i blant, ac fe wnaethon nhw gysylltu â mi i ofyn a fyddwn i'n hoffi bod yn rhan o'r gronfa cyfleoedd ieuenctid."

- "Wel, aethon ni i ddigwyddiad yn y Black Lion, rhoi ein henwau i lawr ar ei gyfer, a dyma nhw'n anfon llythyr aton ni."

- "Rhywun yn y Clwb Ieuenctid ddywedodd wrtha' i. Fe wnaethon nhw ofyn i mi a fyddwn i'n hoffi dod i mewn i'w gweld nhw, ac rydw i wedi bod yn dod byth ers hynny."

- "Roeddwn i'n mynd i'r cyfarfodydd hyn yn wreiddiol i gynrychioli safbwyntiau pobl ifanc, a ches wybod bod y llywodraeth wedi rhoi miliwn a hanner o bunnoedd am y ddwy flynedd nesaf i'w wario ar brosiectau ieuenctid."

Pam wnaethoch chi gymryd rhan?

- "Roeddwn i'n meddwl ei fod yn gyfle gwych i ymestyn ein dealltwriaeth o sut mae nawdd yn gweithio mewn gwahanol grwpiau o amgylch Caerlŷr."

- "Dydy'r ardal yr ydw i'n byw ynddi ddim yn arbennig o dda i bobl ifanc, felly roeddwn eisiau gwneud rhywbeth a fyddai'n gwneud gwahaniaeth."

- "Yn wreiddiol, fe wnaethom ni fel grŵp wneud cais am nawdd. Rydw i'n gweithio ar brosiect ar gyfer plant ifanc sydd dros eu pwysau neu'n ordew, fe wnaethon ni gais am nawdd ac yna dywedwyd wrthym y bydden ni'n cael bod yn rhan o banel dewis os hoffen ni."

- "Wel, dywedwyd wrthyf fod yn rhaid i Swydd Derby wario 1.5 miliwn o bunnoedd rhwng y Gronfa Cyfalaf Ieuenctid a'r Gronfa Cyfleoedd."

- "Weithiau, dydy pobl ddim yn cael mynegi eu syniadau a gofyn am y pethau yr hoffen nhw eu cael, felly mae hyn yn gyfle i chi helpu i gael gafael ar syniadau pobl a gwireddu'r syniadau hynny."

- "Roedden ni'n meddwl y byddai'n gyfle da i gwrdd â phobl eraill ac yn y blaen."

- "Roeddwn i'n meddwl bod y llywodraeth yn ymddwyn yn rhywiaethol iawn tuag aton ni, ac yn credu eu bod yn rhoi gwell cyfleusterau i ddynion a gwrywod nag yr oeddent yn eu rhoi i ferched, fel parciau sglefrio a chaeau pêl-droed. Mae 'na ambell gwrt pêl-rwyd ond mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n llawn o ddynion yn chwarae pêl-fasged, felly roeddwn i'n teimlo nad oedd 'na neb yn siarad ar ein rhan ni, y merched, yn enwedig y merched ifanc hefyd."

Beth mae’r panel yn ei wneud?

- "Mae gan bawb ar y panel ei farn, mae gan bawb yr un hawliau cyfartal i ddweud ei ddweud, ac mae swyddogaeth pob un ohonom yr un fath, ond pobl ifanc yw'r rhan fwyaf o'r aelodau sydd ar y panel oherwydd, yn amlwg, mae'n rhaid i'r prosiectau gael eu harwain gan bobl ifanc i ryw raddau."

- "Rydw i'n credu bod swyddogaeth pob un ohonom yn bwysig oherwydd, yn syml iawn, fod popeth sy'n digwydd yn cael ei reoli gennym ni. Ni, y bobl ifanc."

- "Wel, rydw i'n bendant yn gobeithio fy mod yn cynrychioli barn pobl Dolydd Swydd Derby yn ogystal â'm safbwyntiau personol innau. Ond rydw i'n ceisio peidio â bod yn unochrog."

-"Wel, yr un yw swyddogaeth pob un ohonom mewn gwirionedd. Dydyn ni ddim yn gwneud dim â'r Cadeirydd, ac mae gynnon ni ddau - un Cadeirydd ac un Is-Gadeirydd ac ni yw'r bobl eraill."

- "Ni fydd yn penderfynu pwy sy'n cael arian yng ngwahanol ardaloedd Sheffield, ac yn penderfynu faint maen nhw'n ei gael."

- "Mae'n rhaid i ni drafod y cais gyda phawb arall ar y panel ac wedyn byddan nhw naill ai'n ei dderbyn neu'n ei wrthod ac yna'r wythnos wedyn byddwn yn cyfweld y bobl er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn onest, a hefyd yn llenwi ffurflen gais ac yn mynd drwyddi gyda nhw."

- "Rydyn ni'n gwrando ar beth mae pobl yn ei feddwl ddylai gael ei wneud yn y gymuned, yn ystyried y peth, ac yn gweld beth allwn ni ei wneud."

- "Byddwn yn dod yma tua dwy neu dair gwaith y mis, yn byddwn? A byddwn yn aros am ryw dair awr - am ryw dair awr yr wythnos."

- "Byddwn yn eistedd ar banel ac mae pawb gyda'i gilydd, mae gan bob un ohonom yr un swyddogaeth, sef cynrychioli'r ardaloedd."

Sut y byddwch yn penderfynu pwy sy'n cael nawdd?

- "Ar y dechrau, doedden ni ddim yn cael gwneud yr ardaloedd yr oedden ni'n dod ohonyn nhw, rhag ofn ein bod yn adnabod y person."

- "Dyma ni'n dechrau gyda system bwyntiau lle roedden ni'n gorfod rhoi, er enghraifft, pum pwynt gwahanol iddyn nhw - allan o ddeg 'dw i'n meddwl."

- "Byddwn yn edrych pa ardaloedd sydd ag angen yr arian fwyaf. Os ydyn nhw'n ddifreintiedig, byddwn yn gwneud ein gorau i roi'r cyfle mwyaf posib iddyn nhw."

- "Mae'n rhaid iddyn nhw i gyd fod yn syniadau gan blant. Dydy oedolion ddim yn cael dweud yn y mater o gwbl."

- "Byddwn yn darllen drwy'r ceisiadau, ac yna'n ryw geisio cael pleidlais er mwyn gweld faint ohonon ni sy'n hoffi cais a faint sydd ddim yn ei hoffi."

- "Yn bersonol, byddaf yn edrych ar hanes yr ardal i weld pa mor ddrwg yw pethau yno ac yn edrych faint o arian sydd ei angen er mwyn gwneud fy mhenderfyniad."

- "Yn syml iawn datblygu'r berthynas rhwng pawb ac mae hynny'n gwneud y gweithgareddau'n ddifyr, fel gwneud gweithgareddau sy'n rhoi mwynhad i bobl fel y gall pawb gymryd rhan ynddynt."

- "Bydd pawb yn eistedd i lawr ac yn edrych ar y cais i gyfrannu at y broses. Yna, byddwn yn edrych ar y meini prawf ac yn mynd drwyddo fesul pwynt. Os oes unrhyw faterion yn codi, byddwn yn cysylltu â'r person sy'n gwneud cais a, byw mewn gobaith, yn bwrw 'mlaen ar ôl hynny."

Faint o arian fydd pob prosiect yn ei gael?

- "Mae dwy gronfa wahanol. Felly ar gyfer y gronfa cyfleoedd, gellir cael rhwng mil ac ugain mil o bunnoedd, ac ar gyfer y gronfa Gyfalaf, gellir cael rhwng mil a phedwar deg mil o bunnoedd."

- "Mae'r Gronfa Cyfalaf ar gyfer pethau materol, pethau mwy, pethau y gallwch eu prynu. Mae'r Gronfa Cyfleoedd Ieuenctid ar gyfer llefydd y gall rhywun fynd, a phethau i'w gwneud."

- "Gall amrywio yn dibynnu ar ba mor ddifreintiedig yw ardal, neu pa mor fawr fydd y prosiect. Hefyd, faint o bobl fydd yn elwa."

- "Wyth mil gyda'r grant Cyfle, a deg mil gyda'r grant Cyfalaf. Os ydyn nhw wedi gwneud cais am grantiau mawr y tro cyntaf, gallant wneud cais am fil o bunnoedd yr eildro."

- "Gall prosiectau amrywio'n gyfan gwbl o ran arian - o gannoedd i ddegau o filoedd o bunnoedd, yn dibynnu ar faint o bobl fydd yn elwa."

- "Wel, gofynnir iddyn nhw faint o arian sydd ei angen arnynt. Mae'r cwestiwn hwnnw'n cael ei ofyn pan fyddwn yn eu cyfweld nhw. Mae angen i ni gael gwybod hynny."

- "Wedyn, gallwn newid ac ailwampio yn dibynnu ar faint rydyn ni'n ei feddwl y dylent ei gael, a phe baen ni'n gallu cael amcanbris neu rywbeth - gallai hynny helpu."

Additional links

Gwneud cais am arian

Os ydych am wneud cais am arian Cronfeydd Ieuenctid, bydd angen i chi gysylltu â'ch awdurdod lleol

Cysylltiadau defnyddiol

need2know

Popeth y mae angen i chi ei wybod gyda need2know

Allweddumynediad llywodraeth y DU