Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 9 Chwefror 2012

Cystadleuaeth yr Her Ieuenctid: gwneud yn ogystal â dweud...

Yn 2007, rhoddwyd arian ychwanegol i rai o brosiectau mwyaf llwyddiannus y cronfeydd ieuenctid o bob cwr o'r wlad i'w gwneud hyd yn oed yn well, fel rhan o gystadleuaeth 'Gwneud yn ogystal â dweud...' (Actions speak louder...).

Sut mae'r gystadleuaeth yn gweithio?

Cynhaliodd awdurdodau lleol gyfres o gystadlaethau er mwyn dod o hyd i'r prosiectau gorau a'r rhai mwyaf llwyddiannus a dderbyniodd arian gan y Cronfeydd Ieuenctid. Roedd yn rhaid i bob awdurdod ddewis un prosiect yn unig o'u hardal nhw, ac roedd y prosiect hwnnw'n mynd ymlaen i gystadleuaeth 'Gwneud yn ogystal â dweud...' genedlaethol.

Rhoddwyd gwobrau o hyd at £45,000 i'r 15 prosiect buddugol. Defnyddiwyd yr arian ychwanegol i ddatblygu neu ehangu prosiect, sy'n golygu y bydd mwy o bobl ifanc yn eu harddegau'n elwa ohono.

Gan mai'r bobl ifanc a feddyliodd am y syniadau oedd y rhai oedd yn deall eu prosiectau orau, nhw a helpodd i benderfynu ym mhle y byddai'r arian yn cael ei wario - p'un a fyddai'n cael ei wario ar brosiect sy'n bodoli'n barod neu'n cael ei ddefnyddio i sefydlu prosiect newydd yn seiliedig ar y syniad gwreiddiol.

Pwy oedd yn dewis yr enillwyr?

Ffurfiodd grŵp o 23 o bobl ifanc rhwng 15 ac 20 oed banel beirniadu. Dyma nhw'n edrych ar bob prosiect ac yn penderfynu pa rai oedd wedi cael yr effaith fwyaf ar y gymuned a faint o bobl ifanc eraill yn eu harddegau y gallai'r prosiect eu helpu pe bai'n cael arian ychwanegol i ehangu.

Pwy oedd yr enillwyr?

Cafodd 15 o brosiectau o bob cwr o'r wlad eu gwobrwyo am eu llwyddiant. Dyma nhw:

  • prosiect ‘Getting a Life’ yn Swydd Caergrawnt, sy'n helpu pobl ifanc anabl i roi cynnig ar weithgareddau hamdden newydd
  • Nettica, y caffi rhyngrwyd newydd a grëwyd yn Coventry
  • Clwb Ieuenctid YO2 sy'n dod â phobl ifanc a chanddynt anableddau meddyliol o bob rhan o Ddyfnaint at ei gilydd
  • canolfan galw heibio Xtrax sy'n rhoi lle diogel i bobl ifanc yn eu harddegau fynd iddo mewn ardal yn Nwyrain Sussex sy'n cael ei heffeithio gan broblemau cymdeithasol a throseddu
  • “cawell chwaraeon” wedi'i ailwampio i bobl ifanc Essex ei ddefnyddio
  • Prosiect Gardd Mpower, a greodd ardd a chae chwarae newydd i bobl ifanc anabl ym mwrdeistref Haringey, Llundain
  • maes chwarae newydd ar gyfer Clwb Chwaraeon Centenary Park yn Harrow
  • prosiect Chwalu Rhwystrau (Breaking Barriers) yn Lewisham, sy'n anelu at fynd i'r afael â diwylliant y gangiau yn yr ardal
  • camerâu ac offer newydd i grŵp Youth Arts Cinema yn Swydd Gaerhirfryn
  • cae pêl-droed ac ystafell gyfrifiaduron newydd i Glwb Ieuenctid Oliver Hinds yn Nottingham
  • prosiect Shine yn Sheffield, sy'n helpu pobl ifanc yn eu harddegau sy'n ordew i ddysgu am fwyta'n iach
  • prosiect S*tar, sy'n helpu pobl ifanc rhwng 14 a 15 oed i ddysgu pobl sy'n iau na nhw am faterion yn ymwneud ag iechyd rhyw
  • offerynnau cerdd a deciau DJ ar gyfer Prosiect Cerddoriaeth Fairfield yn Stockton-on-Tees
  • cyfres o sioeau talent yn Walsall a gododd arian ar gyfer dioddefwyr y tswnami a ddigwyddodd yn Sri Lanka ddydd San Steffan
  • noson amlddiwylliannol yn Swydd Worcester, a roddodd gyfle i bobl ifanc o wahanol gefndiroedd ethnig ddod i adnabod ei gilydd yn well

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y prosiectau hyn drwy ddarllen ein hastudiaethau achos, sy'n egluro sut y meddyliodd y bobl ifanc am y syniadau, sut yr aethant ati i ddefnyddio'r arian a sut yr helpodd y prosiectau eu cymunedau lleol.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Gwneud cais am arian

Os ydych am wneud cais am arian Cronfeydd Ieuenctid, bydd angen i chi gysylltu â'ch awdurdod lleol

Cysylltiadau defnyddiol

need2know

Popeth y mae angen i chi ei wybod gyda need2know

Allweddumynediad llywodraeth y DU