Enillodd deuddeg o brosiectau eraill wobr ariannol fel rhan o gystadleuaeth 'Gwneud yn ogystal â Dweud...' ('Actions Speak Louder'). Mae pob un wedi gwneud gwelliannau gwirioneddol i bobl ifanc yn eu hardaloedd.
Efallai mai uchafbwynt wythnos rhai pobl ifanc anabl yw trip i'r archfarchnad leol gyda'u rhieni, ond mae elusen o Gaergrawnt - Speaking Up - yn anelu at newid hynny.
Mae prosiect peilot yn Huntingdon yn helpu wyth o bobl ifanc anabl i lunio cynlluniau ar gyfer y math o fywyd cymdeithasol yr hoffent ei gael, a'r math o gymorth y bydd ei angen arnynt er mwyn cyflawni hyn.
Byddant wedyn yn cael eu paru gyda phobl ifanc nad ydynt yn anabl, a fydd yn eu helpu i ddefnyddio arian, i deithio neu hyd yn oed i fod yn gefn iddynt a'u hannog i roi cynnig ar rywbeth newydd. Bydd y bobl ifanc anabl yn cael cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, fel gwersi dawnsio, mynd i'r gampfa neu chwarae pêl-droed yn y parc hyd yn oed.
Pan welodd Hamida Khalifa, gweithiwr cymdeithasol yn Coventry, bod yr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynyddu yn yr ardal, ymunodd â'r heddlu lleol i fynd i'r afael â'r mater.
Dywedodd pobl ifanc leol wrth Hamida a'r heddlu nad oedd ganddynt ddim byd diddorol i'w wneud yn ystod y min nos, ond yr hoffent pe bai caffi rhyngrwyd ar gael iddynt. Nid oedd caffi rhyngrwyd yn yr ardal leol, felly penderfynasant greu un eu hunain. Meddyliodd saith o wirfoddolwyr yn eu harddegau am syniad Nettica, ac arian gan y Gronfa Ieuenctid a dalodd am ailwampio'r caffi rhyngrwyd a agorodd ei ddrysau ym mis Ionawr 2007. Erbyn y mis canlynol roedd yr ardal gyfagos yn barod yn gweld manteision gwirioneddol, gyda lefelau'r ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gostwng.
Mae Clwb Ieuenctid Y02 yn Tiverton yn helpu pobl ifanc gydag anghenion arbennig.
Ar hyn o bryd, dyma'r unig glwb yng nghanol Dyfnaint sy'n cynnig gwasanaeth o'r fath. Mae'n achubiaeth i bobl ifanc o ardaloedd gwledig gan ei fod yn rhoi'r cymorth angenrheidiol iddynt, yn ogystal â bod yn lle hwyliog i fynd iddo. Yn hytrach nag edrych arnynt fel pobl ifanc 'wahanol', edrychir ar yr hyn y gallant ei wneud, nid yr hyn na allant ei wneud.
Pan oedd y clwb mewn perygl o gael ei gau, gwnaeth yr aelodau gais am nawdd Cyfleoedd Ieuenctid. Yn awr, gall y clwb aros yn agored tan o leiaf 2008, ac mae mwy na hanner ei aelodau'n hyfforddi ar gyfer Gwobr Efydd Dug Caeredin.
Erbyn iddi fod yn 16 oed, roedd Jenny Cross yn gaeth i gyffuriau ac yn byw bywyd caled ar strydoedd Hastings. Un diwrnod, roedd hi'n cerdded heibio canolfan galw heibio yn y dref, ac aeth i mewn yno. Erbyn hyn, mae hi'n 18 oed, mae wedi rhoi'r gorau i gymryd cyffuriau, mae ganddi ei fflat ei hun ac mae hi'n helpu yn y ganolfan a'i helpodd hi.
Mae Xtrax yn elusen annibynnol sydd wedi ei lleoli mewn ardal a chanddi lefelau uchel o ddiweithdra a throseddu. Mae'n agored i bob person ifanc rhwng 16 a 25 oed: Pobl ddigartref, mamau ifanc, pobl sy'n cam-drin cyffuriau neu alcohol, pobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu neu bobl ifanc anabl. Yma, caiff pobl ifanc sydd heb neb i droi atynt ymdeimlad gwirioneddol o berthyn ac o fod yn rhan o deulu.
Mae Jenny'n gwirfoddoli yn Xtrax a gwnaeth gais am arian gan y Gronfa Cyfleoedd Ieuenctid. Defnyddiwyd yr arian i dalu am y gwaith o atgyweirio'r adeilad, ac am adeiladu ystafell iechyd rhyw lle gellir gwneud profion beichiogrwydd a phrofion am Heintiau a Drosglwyddir Drwy Ryw.
Mae'r Ganolfan Addysg Amgen yn Harlow yn helpu pobl ifanc 15 ac16 oed sy'n cael anhawster wrth ddysgu sut i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl gadael yr ysgol.
Wrth ymyl y ganolfan ceir maes chwaraeon, a oedd yn beryglus ac wedi mynd a'i ben iddo. Gwnaeth deg o bobl ifanc o'r ganolfan gais am arian gan y Gronfa Ieuenctid. Pan ddyfarnwyd grant iddynt gan y Gronfa Cyfalaf Ieuenctid, fe wnaethon nhw rannu'r cyfrifoldeb o roi'r prosiect ar waith. Erbyn hyn, mae'n rhywbeth y gall y gymuned gyfan ei ddefnyddio.
Penderfynodd 14 o bobl ifanc anabl o Grŵp Cyfranogaeth Ieuenctid MPower yn Tottenham ddechrau cynllunio eu prosiectau cymunedol eu hunain, gan ddechrau gyda chae chwarae'r ganolfan - a oedd yn eithaf hen erbyn hyn.
Aethant i ymweld â gwahanol gyfleusterau chwarae o gwmpas Llundain a chael adborth gan bobl ifanc anabl eraill. Gwnaethant hyd yn oed ddefnyddio sesiynau symbolau a thynnu lluniau er mwyn cael barn aelodau'r grŵp na allai siarad.
Ar ôl hynny, fe wnaethant dalu am ’Siglen tango' anferth, gofyn i gymaint o bobl â phosib ei ddefnyddio, a'i newid yn ôl eu canfyddiadau. Cynlluniodd y grŵp wahanol atodiadau a oedd yn addas ar gyfer pobl a chanddynt anghenion gwahanol iawn, ac fe wnaethant 'guddfan' hyd yn oed ar frig y siglen ar gyfer pobl ifanc a chanddynt anableddau fel awtistiaeth.