Enillodd deuddeg o brosiectau eraill wobr ariannol fel rhan o gystadleuaeth 'Gwneud yn ogystal â Dweud...' ('Actions Speak Louder'). Mae pob un wedi gwneud gwelliannau gwirioneddol i bobl ifanc yn eu hardaloedd.
Arferai Clwb Chwaraeon Centenary Park yn Harrow gynnal cyfres o dwrnameintiau pêl-droed a thennis. Roeddynt yn boblogaidd tu hwnt, a byddent yn cadw pobl ifanc leol oddi ar y strydoedd. Ond oherwydd cyflwr gwael y cae, bu'n rhaid gohirio'r twrnameintiau.
Gyda chymorth Gwasanaethau Ieuenctid Harrow, dechreuodd 20 o bobl ifanc a arferai gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon yn y parc godi arian i drwsio'r cyfleusterau. Enillasant grant gan y Gronfa Cyfalaf Ieuenctid a bydd y gwaith o roi wyneb newydd ar y cae yn dechrau yn Ebrill. Mae pobl ifanc yn barod yn rhoi eu henwau i lawr ar gyfer y cylch cystadlu nesaf ac mae'r grŵp yn gobeithio y bydd yr wyneb mwy diogel yn galluogi pobl ifanc anabl o'r ardal leol i gymryd rhan hefyd.
Bydd pobl ifanc yn eu harddegau sy'n mynychu grŵp Youth Arts Cinema yng Nghaerhirfryn yn meithrin mwy na dim ond y gallu i berfformio o flaen y camera neu y tu ôl iddo. Maent yn dod o wahanol gefndiroedd ac mae gan ambell un broblemau personol a chymdeithasol difrifol. Mae dim ond cael mynd yno'n rhoi hwb i'w hunanhyder.
Nid oedd gan y prosiect ddim offer golygu, a dim ond un hen gamera oedd ganddynt, felly fe aeth grŵp o bobl ifanc ati i wneud cais am nawdd Cyfleoedd Ieuenctid er mwyn gallu prynu camera ac offer sain a golygu proffesiynol. Maent yn awr yn gobeithio ymestyn cyrhaeddiad y grŵp drwy roi benthyg yr offer i bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig cyfagos - gan greu grwpiau llai o wneuthurwyr ffilmiau.
Mae Clwb Ieuenctid Oliver Hinds ar agor i bobl ifanc o bob rhan o Nottingham, ac mae'n falch o'i enw da - enw da sy'n deillio o'r ffaith ei fod yn estyn croeso i bawb, beth bynnag eu hoedran neu'u cefndir.
Dyma'r unig glwb yn yr ardal, ac roedd grŵp o aelodau'r clwb yn dymuno cynnig mwy o weithgareddau i ddenu pobl ifanc eraill o'r gymuned. Aeth chwech o bobl ifanc ati i drefnu'r gwaith o adnewyddu'r cae 'Astroturf'. Roedd y chwech ohonynt yn cynrychioli amrywiol gefndiroedd ethnig aelodau'r clwb, a chawsant grant gan y Gronfa Cyfalaf Ieuenctid.
Yn awr, gall pobl ifanc o'r ardal leol ddefnyddio'r cae i gynnal gemau a thwrnameintiau pêl-droed. Mae'r clwb hefyd yn bwriadu cynnal gweithdai ‘cadw'n ddiogel’ er mwyn helpu'r rhai sy'n loetran o amgylch y strydoedd i gadw allan o drwbl, ac mae ganddynt gynlluniau i fuddsoddi mewn ystafell gyfrifiaduron er mwyn helpu'r rhai hynny sydd wedi dewis gadael yr ysgol.
Mae lefelau cam-drin rhywiol a thrais yn uchel yn Southampton, ac mae'r rhain yn ymwneud yn aml â phobl ifanc.
Er mwyn mynd i'r afael â'r broblem, sefydlodd gwasanaeth Cwnsela Argyfwng Trais Rhywiol a Cham-drin Rhywiol Southampton y prosiect S*tar - gwasanaeth i bobl ifanc sydd wedi bod ar waith yn y ddinas ers bron i saith mlynedd.
Gydag arian y Cronfeydd Ieuenctid, talwyd am gyfres o weithdai a oedd yn edrych ar iechyd rhyw a materion yn ymwneud â pherthnasau. Dros gyfnod o chwe wythnos, bydd tîm S*tar yn gweithio gyda phobl ifanc 14 a 15 oed mewn ysgol leol, a bydd y plant ifanc hynny wedyn yn siarad â dosbarthiadau o blant 12 i 13 oed am y materion, gan ddefnyddio enghreifftiau o'u profiadau eu hunain er mwyn gwneud y gwersi'n llawer mwy diddorol a pherthnasol.
Mae Canolfan Pobl Ifanc Fairfield yn Stockton-on-Tees yn rhoi cyfle i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth ddod at ei gilydd a chael hwyl - beth bynnag yw eu hoedran a'u cefndir.
Ar ôl cael cymorth drwy'r Gronfa Cyfleoedd Ieuenctid, pleidleisiodd y rhai a oedd yn defnyddio'r ganolfan dros brynu offer drymiau, deciau cymysgu, ac offer cynhyrchu cerddoriaeth eraill newydd. Byddant yn cynnal cystadlaethau DJs ac MCs a noson ‘brwydr y bandiau’, yn ogystal â gweithgareddau eraill.
Mae arnynt eisiau cynhyrchu CDs a DVDs o'u cerddoriaeth a llwytho caneuon oddi ar y rhyngrwyd. Ond yn gyntaf maent yn gobeithio cymryd rhan yng Ngŵyl Ryngwladol Riverside, Stockton, ac yn annog pobl eraill yn yr ardal i ymuno.
Ar ôl Tswnami dydd San Steffan, penderfynodd Rachel Ferguson, sy'n 16 oed, a'i ffrindiau o Walsall MAD godi arian ar gyfer dioddefwyr Sri Lanks drwy gynnal cyfres o weithdai talentau lleol gyda DJs, bandiau byw, darlleniadau barddoniaeth a chomedi.
Aeth Rachel a'i ffrindiau ati i gynnwys cymaint o bobl â phosib - dyma nhw'n paratoi cyflwyniadau, yn hysbysebu mewn ysgolion a phapurau lleol ac yn cysylltu â busnesau er mwyn cael rhoddion. Nhw hefyd gynlluniodd docynnau'r sioe a'r rhaglenni, a threfnu i bob perfformiad gael ei recordio ar DVD.
Defnyddiwyd arian gan y Cronfeydd Ieuenctid i dalu am ran o gost y digwyddiadau, ac i'w hysbysebu. Cododd y sioe £3,000, a bydd dau draean o'r arian hwnnw'n helpu i dalu am gael ystafell ddosbarth i bobl ifanc yn Sri Lanka. Mae'r £1,000 sy'n weddill yn cael ei roi i gymuned yn Sri Lanka, ac mae Rachel a'i ffrindiau'n gobeithio ymweld â'r gymuned honno yn ystod yr haf er mwyn helpu i adeiladu parc chwarae.