Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Chwalu rhwystrau yn Lambeth

Mae tri ffrind yn Llundain yn defnyddio'r wobr a gawsant fel rhan o'r gystadleuaeth 'Gwneud yn ogystal â dweud...' i fynd i'r afael â diwylliant y gangiau yn eu hardal yn eu ffordd eu hunain - drwy ddenu pobl ifanc yn eu harddegau oddi wrth y mannau lle maent yn mynd i drwbl fel arfer.

Sefyll yn erbyn troseddu

Mae Clwb Ieuenctid Marcus Lipton yn Lambeth wedi'i leoli mewn ardal lle mae diwylliant y gangiau'n broblem wirioneddol, lle mae pobl ifanc leol yn aml yn ymuno â gangiau pan maent yn 13 oed.

Mae Nicola, sy'n 19 oed, yn aelod o Gronfa Cyfleoedd Ieuenctid Lambeth. Roedd hi, ynghyd â'i ffrindiau, yn awyddus i helpu pobl ifanc a fyddai, o bosib, yn cael eu denu i fyd y gangiau, rhag iddynt ddilyn ffordd y gangiau o fyw a bod yn rhan o droseddu a thrais ar y stryd.

“Cefais dipyn o syndod,” medd Nicola. “Gan fod popeth yn y clwb yn ymddangos mor ddiniwed, doedd gen i ddim syniad y gallai pobl mor ifanc â 13 a 14 fod yn rhan o ddiwylliant y gangiau.”

Codi Pontydd

“Mae'n anhygoel eu bod yn credu yn yr hyn y maent yn ei wneud - wrth feddwl yn y ffordd yna, gall pethau newid go iawn.”

Datblygodd Nicola a'i ffrindiau, Danni, Chanelle a Termz syniad am brosiect o'r enw Chwalu'r Ffiniau (Breaking Barriers).

Fel yr eglura Nicola: “Ein bwriad yw tynnu aelodau o wahanol grwpiau allan o'u hamgylchedd arferol a rhoi cyfle iddynt ddod i adnabod ei gilydd. Y theori yw na fyddant yn edrych ar ei gilydd fel gelynion pan fyddant yn gweld ei gilydd ar y stryd.”

Mae'r clwb yn bwriadu rhoi'r syniad ar waith yn ystod Gwanwyn 2007, pan fydd 20 o bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed yn mynd ar yr hyn a elwir yn drip ‘preswyl’, sef trip o'r ardal a fydd yn eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog a heriol, gan ddangos iddynt fod mwy i fywyd na bod yn aelod o gang.

Mae Danni'n credu y dylai pobl ifanc ddechrau ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros yr hyn y maent yn ei wneud: “Mae'n rhaid i bobl ifanc feddwl am y problemau a phenderfynu gwneud gwahaniaeth.”

Mae ei chyd-drefnydd, Termz, yn credu y bydd y tripiau preswyl yn dechrau lleihau'r tensiynau rhwng gangiau sy'n elyniaethus tuag at ei gilydd: “Bydd yn ein helpu i chwarae a gweithio gyda'n gilydd, a phan fyddwn yn cyrraedd adref bydd yn datblygu ein cyfeillgarwch.”

Bydd y rhai hynny sy'n mynd i'r digwyddiad yn derbyn tystysgrif gan y Gronfa Cyfleoedd Ieuenctid, ac yn cael cyfle i weithio tuag at ennill Gwobr Llwyddiant yr Ifanc a gydnabyddir yn genedlaethol.

Dyfodol disgleiriach

Datblygodd y tri ffrind eu syniad ym mhob rhan o'r broses gynllunio - cwblhau ceisiadau am gyllid, trefnu cyfarfodydd a chwalu rhwystrau yn eu cymdogaeth.

Fe wnaethant hefyd ennill sgiliau rheoli prosiect a sgiliau cyfathrebu ar lafar, mae eu hunan-barch wedi codi, ac, yn bwysicaf oll, maent wedi rhoi gobaith i lawer o bobl eraill yn yr ardal.

Aeth Chanelle, yr ieuengaf o'r tair, ati o ddifrif i ymateb i'r her o fod yn arweinydd y prosiect: “Fe wnes i drefnu'r cyfarfodydd a ffonio'r ganolfan breswyl. Rwy'n teimlo'n fwy aeddfed, fel oedolyn gyda chyfrifoldebau.”

Gan ddefnyddio'r arian a gawsant fel rhan o'r Wobr Her Ieuenctid Genedlaethol, bydd prosiect Chwalu'r Rhwystrau yn awr yn gallu cynnig mwy o dripiau preswyl i fwy na chant o'r bobl ifanc a ymgeisiodd yn wreiddiol.

Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i sefydlu prosiectau eraill, gan gynnwys twrnamaint pêl-droed Chwalu'r Rhwystrau, yn ogystal â chaffi rhyngrwyd yn y clwb ieuenctid, gyda mynediad at Dechnoleg Gwybodaeth - sy'n golygu y gall pobl ifanc yn eu harddegau sefydlu eu gwefannau eu hunain i gystadlu'n uniongyrchol gyda safleoedd sy'n annog pobl ifanc i ymuno â gangiau.

Mae diwylliant y gangiau'n broblem anodd mynd i'r afael â hi, ond mae Nicola'n credu y gallant wneud gwahaniaeth gwirioneddol: “Rydw i'n meddwl ei fod yn wych eu bod nhw'n credu yn yr hyn yr ydym yn ei wneud, a bod arnynt ei eisiau o ddifri - oherwydd pan fydd pobl yn meddwl fel yna, gall pethau newid go iawn.”

Additional links

Gwneud cais am arian

Os ydych am wneud cais am arian Cronfeydd Ieuenctid, bydd angen i chi gysylltu â'ch awdurdod lleol

Cysylltiadau defnyddiol

need2know

Popeth y mae angen i chi ei wybod gyda need2know

Allweddumynediad llywodraeth y DU