Drwy drefnu cyfres o nosweithiau adloniant gyda gwobr a enillwyd fel rhan o'r gystadleuaeth 'Gwneud yn ogystal â dweud...', mae grŵp o bobl ifanc yn Swydd Worcester yn gobeithio helpu gwahanol grwpiau cymunedol i ddysgu mwy am ei gilydd.
Mae gan dref Redditch lawer o wahanol gymunedau diwylliannol: ceir yno bobl Affro-Caribïaidd, pobl Asiaidd, pobl Tsieineaidd a nifer cynyddol o Bwyliaid. Ceir perthynas dda rhwng pob hil, ond roedd pobl ifanc leol yn sylweddoli bod tuedd iddynt gadw o fewn eu grwpiau ethnig eu hunain, yn enwedig yn yr ysgol.
Roedd grŵp o fyfyrwyr ysgol uwchradd yn teimlo bod angen newid y sefyllfa hon. Maent i gyd yn aelodau o Gyngor Myfyrwyr Redditch, sy'n cynrychioli pedair ysgol uwchradd y dref, ac roedd arnynt eisiau dod o hyd i ffordd o annog grwpiau ethnig i gymysgu â'i gilydd.
“Roedden ni'n teimlo bod rhywfaint o elyniaeth rhwng y pedair ysgol, ac mai materion yn ymwneud â hil oedd wrth wraidd hynny. Roedden ni eisiau i bawb ddod ymlaen â'i gilydd yn well” medd Oliver Dyer, 17 oed, sy'n gadeirydd ar y Cyngor.
“Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth a fyddai'n dod â phobl at ei gilydd,” ychwanega Daniel Allen, sydd hefyd ar y Cyngor, “ond yn fwy na dim rhywbeth a fyddai'n hwyl ar yr un pryd. Cynnal digwyddiad amlddiwylliannol oedd y syniad cyntaf gawson ni.”
Aeth y Cyngor Myfyrwyr ati i logi canolfan ieuenctid leol, cyn gwahodd grwpiau ethnig i rannu eu diwylliant, eu traddodiadau, eu celf a'u cerddoriaeth.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys:
Roedd y noswaith yn llwyddiant ysgubol, gyda mwy na 200 o bobl yn bresennol. “Cawsom adborth cadarnhaol tu hwnt” medd Oliver. “Roedd hi'n noson bleserus iawn ac roedd pawb yn gwenu ac yn cael hwyl.”
Mae'r grŵp wedi gweld gwahaniaeth yn barod: “Pan fyddaf yn cerdded o amgylch Redditch ar y penwythnosau, byddaf yn gweld myfyrwyr o wahanol ysgolion yn siarad gyda'i gilydd, ac rydw i fy hunan yn adnabod mwy o ddisgyblion o ysgolion eraill erbyn hyn” medd Oliver.
Mae Daniel yn cytuno: “Mae rhai pobl yn dal yn eu grwpiau gan mai dyna lle maen nhw'n teimlo'n ddiogel, ond mae mwy o fyfyrwyr yn cymysgu erbyn hyn.”
Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad cyntaf, mae'r myfyrwyr wedi cael eu hannog i ddefnyddio'r wobr ariannol a gawsant o gystadleuaeth ‘Gwneud yn ogystal â dweud…’ i drefnu pum noson amlddiwylliannol arall ar draws Swydd Worcester. Bydd y digwyddiadau'n cael eu trefnu gan bobl ifanc yn lleol, a Chyngor Myfyrwyr Redditch fydd yn gyfrifol am reoli'r prosiect yn gyffredinol. Maent hefyd eisiau cynhyrchu fideo o'r digwyddiadau fel y gellir ei ddefnyddio mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid i hyrwyddo dealltwriaeth o ddiwylliannau gwahanol.
Roedd Cyngor Myfyrwyr Redditch wedi derbyn grant o £2,500 yn wreiddiol fel rhan o ddyraniad Cronfa Cyfleoedd Ieuenctid Swydd Worcester.