Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pobl ifanc yn cael y cyfle i ddisgleirio

Mae pobl ifanc yn Sheffield yn defnyddio'r wobr ariannol a gawsant gan 'Gwneud yn ogystal â dweud' i ddysgu mwy am fyw'n iach.

Arferion iachach

Yn aml iawn, dim ond un peth sydd ar feddwl y bobl ifanc sy'n mynd i Ganolfan Ieuenctid Steel Inn ar ystâd Manor yn Sheffield; ymuno â phrosiect SHINE a cholli pwysau. Ond, fel y canfu Emma, sy'n 17 oed, mae llawer mwy o bethau y gallwch eu cyflawni wrth ddilyn y llwybr tuag at fywyd iachach.

Nod SHINE (Self Help, Independence, Nutrition and Exercise), yw helpu pobl ifanc gordew yn ardal Sheffield i feithrin ystod o sgiliau er mwyn newid eu ffyrdd do fyw. Fel yr eglura Emma: “Roeddwn i'n pwyso 13 stôn pan ymunais â'r grŵp. Roeddwn dros fy mhwysau am y rhan fwyaf o'm bywyd cyn SHINE. Mae'n mynd â chi drwy'ch problemau.” 

Yn hytrach na defnyddio deiet, mae aelodau'r grŵp yn ceisio canfod pam eu bod yn pwyso mwy nag y dylen nhw yn y lle cyntaf, ac yn mynd i'r afael â'r materion hynny gydag amrywiaeth o weithgareddau.

I Emma, roedd yn fater o dorri arferion oes. “Pan oeddwn yn yr ysgol gynradd, fyddwn i ddim yn mynd allan amser chwarae. Yn lle hynny, byddwn yn gofyn i'r athrawon a gawn i aros i mewn i helpu. Roeddwn i'n teimlo'n unig ac ar fy mhen fy hun - cefais fy mwlio oherwydd fy mod yn dew ac yn gwisgo sbectol.”

Gwers bwysig

“Rydw i'n credu y dylai mwy o grwpiau gael eu sefydlu er mwyn dilyn ein hesiampl.”

Drwy gael archwiliadau iechyd bob pedair i chwe wythnos, anogir y bobl ifanc i gadw golwg ar eu pwysau ac ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros newid eu bywydau eu hunain.

Erbyn hyn, a hithau'n Gadeiryddes Pwyllgor Pobl Ifanc SHINE, mae Emma'n teimlo'n fwy cyffyrddus gyda'r ffordd mae hi'n edrych, ac yn hapusach â'r ffordd y mae hi'n byw ei bywyd. “Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i yma oni bai am y grŵp - roedd yr holl fwlio'n mynd yn drech na fi,” meddai.

Aelodau SHINE sy'n ffurfio Pwyllgor y Bobl Ifanc, ac maen nhw wedi helpu i lunio'r grŵp; mae syniadau a barn pawb wedi helpu arweinydd y cwrs i gynnal rhaglen sy'n haws ei mwynhau ac sy'n fwy effeithiol - rhaglen sy'n llawn o weithgareddau diddorol.

Gall pob un o'r 42 aelod ddweud eu dweud ar unrhyw beth bron. Anogir aelodau hŷn i gymryd rôl arweiniol yn y grŵp, a rhoddir cyfle iddynt weithio tuag at ennill gwobr Dug Caeredin.

Lledaenu’r gair

“Mae'r arian a dderbyniwyd gan y Cronfeydd Ieuenctid wedi'n helpu i gyflawni pethau na fydden ni byth wedi meddwl y gallen ni eu gwneud,” eglura Emma'n frwdfrydig. “Mae hyn yn cynnwys prynu ystod eang o offer chwaraeon ac offer gwersylla ar gyfer y digwyddiadau y byddwn yn cymryd rhan ynddynt fel tîm, ac ar gyfer gweithgareddau Dug Caeredin.”

Mae SHINE yn gobeithio defnyddio'r wobr ariannol y maent wedi ei hennill i'w helpu i ledu'r gair am fyw'n iach ymhlith mwy o ysgolion yn eu hardal – a hefyd i'w galluogi i gynnwys aelodau o ardaloedd eraill.

“Rydyn ni eisiau addysgu pawb - yn llythrennol; ysgolion uwchradd, oedolion, pawb.” Ond mae Emma eisiau gweld y grŵp yn gwneud mwy fyth. “Rydw i'n credu y dylai mwy o grwpiau gael eu sefydlu, gan ddilyn ein hesiampl. Mae rhai o'r bobl ifanc sy'n dod yma'n teithio am awr o Doncaster, a bydd llawer o bobl ifanc yn ymuno bob blwyddyn. Mae SHINE yn bwysig i ni i gyd - roedd pobl yn arfer dweud y byddwn i'n pwyso mwy nag a ddylwn am byth. Nawr, rydw i'n profi eu bod nhw'n anghywir.”

Additional links

Gwneud cais am arian

Os ydych am wneud cais am arian Cronfeydd Ieuenctid, bydd angen i chi gysylltu â'ch awdurdod lleol

Cysylltiadau defnyddiol

need2know

Popeth y mae angen i chi ei wybod gyda need2know

Allweddumynediad llywodraeth y DU