Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Daucanmlwyddiant diddymu'r fasnach gaethweision

Tŷ'r Cyffredin, 1806

Ar 25 Mawrth 2007 bydd 200 mlynedd – i'r diwrnod – wedi mynd heibio ers pasio Mesur Seneddol i ddiddymu'r fasnach gaethweision yn yr Ymerodraeth Brydeinig, fel yr oedd hi bryd hynny. Dyma ddechrau'r diwedd o roi terfyn ar fasnachu pobl ar draws Môr Iwerydd.

Deddf Diddymu'r Fasnach Gaethweision

Er y byddai 30 mlynedd arall yn mynd heibio cyn y câi'r caethweision ryddid gwirioneddol - pan fyddai caethwasiaeth ym mhob rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig yn cael ei diddymu - mae'r ddaucanmlwyddiant yn 2007 yn rhoi cyfle i gofio am y miliynau o bobl a ddioddefodd; i dalu teyrnged i wroldeb ac argyhoeddiadau moesol y rheini – yn bobl ddu ac yn bobl wyn – fu'n ymgyrchu dros ddiddymu caethwasiaeth; ac i fynnu cael gwybod pam fod caethwasiaeth yn dal i fodoli mewn rhai rhannau o'r byd hyd heddiw, ddwy ganrif ar ôl ennill y ddadl dros ddiddymu caethwasiaeth yn y wlad hon.

Mae llawer o bobl yn credu'n gryf fod ôl-effeithiau'r fasnach gaethweision a chaethwasiaeth wedi atsain drwy'r canrifoedd. Gellir dadlau bod rhai o'r ôl-effeithiau hynny'n cynnwys hiliaeth, tlodi a gwrthdaro yn Affrica a'r Caribî, anghydraddoldeb a chefndiroedd diwylliannol cymhleth.

Mae'r Llywodraeth yn edifarhau ac yn condemnio'n gryf erchylltra'r fasnach gaethweision ar draws Môr Iwerydd. Roedd Deddf 1807 yn bwynt pwysig o ran y ffordd y mae'r wlad wedi datblygu'n genedl – y genedl a welir heddiw. Roedd yn gam pwysig i'r byd modern ac i fydysawd newydd, tecach. Mae daucanmlwyddiant y ddeddf yn rhoi cyfle unigryw i bobl Prydain fyfyrio dros hanes ehangach masnachu pobl ar draws Môr Iwerydd a diddymu caethwasiaeth, ac ar y gwaith a wnaeth pobl gyffredin a gwleidyddion, ynghyd â Phrydeinwyr, Affricaniaid a phobl India'r Gorllewin, wrth gynorthwyo i roi terfyn ar gaethwasiaeth.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Erthygl y Prif Weinidog i bapur newydd y New Nation ynghylch y fasnach gaethweision ar draws Môr Iwerydd a'r etifeddiaeth a ddaeth yn sgil hyn.

Gwybodaeth am swyddogaeth y Senedd wrth ddiddymu caethwasiaeth ar wefan diddymu caethwasiaeth Senedd y Deyrnas Unedig.

Llwytho 'Myfyrio dros y gorffennol ac edrych tua'r dyfodol' oddi ar y we. Pamffled a gynhyrchwyd i gofio daucanmlwyddiant diddymu'r fasnach gaethweision yn yr Ymerodraeth Brydeinig.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU