Am dros bedwar can mlynedd, o ganol y bymthegfed ganrif, bu Ewropeaid yn caethiwo miliynau o Affricaniaid drwy'r fasnach gaethweision ar draws Môr Iwerydd. Credir bod dros 12 miliwn o Affricanwyr wedi'u llwytho ar longau caethweision, a bod dros dair miliwn wedi marw.
Trawstoriad o'r llong caethweision, 'Brookes'
Ai llongau o Ewrop â nwyddau i Orllewin a Chanol Affrica, i'w cyfnewid am bobl Affricanaidd. Cafodd y rhan fwyaf o'r Affricaniaid a gaethiwyd eu dal mewn brwydrau neu eu herwgipio, ond câi rhai eu gwerthu oherwydd dyled neu fel cosb. Câi'r caethion eu gorymdeithio at yr arfordir, yn aml yn dioddef teithiau'n para wythnosau mewn cyffion a chadwyni.
Fel arfer, cymerai'r daith ar draws Môr Iwerydd chwech i wyth wythnos. Roedd yr amodau'n arswydus yn y llongau llawn ac afiach, a byddai hyd at un o bob pump yn marw. Roedd llawer yn gwrthryfela, ond byddent yn cael eu hatal yn dreisgar.
Yng ngwledydd America, câi'r Affricaniaid a gaethiwyd eu gwerthu fel caethweision i weithio ar blanhigfeydd, mewn cloddfeydd ac mewn amrywiaeth o dasgau medrus ac anfedrus. Roedd eu perchenogion yn eu trin yn greulon gan ddiystyru eu bywydau. Doi'r llongau'n ôl i Ewrop yn llawn nwyddau a oedd yn helpu i cefnogi economi ar dwf.
Aeth llongau Prydeinig ar oddeutu 11,000 o fordeithiau caethwasiaeth. Aeth 95 y cant o'r mordeithiau hyn o Lerpwl, Llundain a Bryste.
Geiriau gan Tony Tibbles. Hawlfraint Grŵp y Post Brenhinol ccc 2007
Tan y 19eg ganrif, ystyriwyd bod caethwasiaeth yn rhan dderbyniol o'r system economaidd, gan alluogi nifer o wledydd yn Ewrop a thu hwnt i elwa a ffynnu drwy fasnachu nwyddau a gynhyrchwyd drwy lafur caeth.
Dechreuodd pryder am y fasnach gaethweision a'r driniaeth a dderbyniai pobl Affricanaidd ddod yn fater cymdeithasol yn y 1760au. Daeth pobl o bob math o wahanol gefndiroedd (gan gynnwys Affricaniaid a gaethiwyd yn flaenorol megis Olaudah Equiano ac Ignatius Sancho, seneddwyr megis William Wilberforce, arweinwyr yr eglwys Thomas Clarkson a Set Clapham a dinasyddion Prydeinig) i lofnodi deisebau, gorymdeithio, lobïo a gweddïo am newid.
Bydd llawer o bobl eisoes yn gwybod ychydig am arwyr mawr y mudiad diddymu, megis William Wilberforce neu Thomas Clarkson, ond mae'n amlwg nad gwaith rhai seneddwyr ac aelodau'r eglwys yn unig oedd diddymu'r fasnach gaethweision. Roedd yn symudiad ar lawr gwlad, yn debyg yn ei ddydd i'r degau o filoedd a ymunodd â'r ymgyrch i ddiddymu apartheid yn Ne Affrica. Pobl ddewr ac egwyddorol a ddewisodd godi eu lleisiau pan y gallai fod wedi bod yn amhoblogaidd gwneud hynny.
Gwybodaeth am swyddogaeth y Senedd wrth ddiddymu caethwasiaeth ar wefan diddymu caethwasiaeth Senedd y Deyrnas Unedig
Llwytho 'Myfyrio dros y gorffennol ac edrych tua'r dyfodol' - pamffled a gynhyrchwyd i gofio daucanmlwyddiant diddymu'r fasnach gaethweision yn yr Ymerodraeth Brydeinig
Gwybodaeth am swyddogaeth y Llynges Frenhinol yn niddymu'r fasnach gaethweision