Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Materion heddiw

Yn ogystal â myfyrio dros orffennol amrywiol y wlad hon, mae 2007 hefyd yn gyfle i wneud ymrwymiad ar y cyd na fydd angen i neb, mewn 200 mlynedd arall, edifarhau ar ein rhan am yr hyn a wnawn heddiw.

Mae cysylltiadau eglur rhwng y pryderon dros gyfiawnder a oedd yn bresennol 200 mlynedd yn ôl, a'n pryderon parhaus i fynd i'r afael â gwahaniaethu heddiw ym Mhrydain a ffurfiau ar gaethwasiaeth - megis masnachu pobl, recriwtio plant i fod yn filwyr a llafur caeth, sy'n dal i ddigwydd mewn sawl rhan o'r byd. Er bod nifer o gymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig yn ffynnu ym Mhrydain heddiw, mae anghydraddoldebau o ran hiliaeth a gwahaniaethu, allgáu cymdeithasol a diffyg cyfleoedd yn dal i fodoli. Mae tlodi ac anghydraddoldeb ar gyfandir Affrica, yn y Caribî ac mewn mannau eraill yn parhau i wneud pobl yn agored i niwed drwy gaethwasiaeth ac ecsbloetio. Mae cysylltiad cryf â meithrin parch sy'n gyson i'r themâu hyn: daw ein gallu i barchu ein gilydd fel Prydeinwyr gan amlaf o'r parch sydd gennym tuag at ein gilydd a'n hanes cysylltiedig.

Gwahaniaethu ar sail hil

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau y gall pob unigolyn, waeth beth yw ei darddiad hiliol neu ethnig, gyflawni ei botensial drwy fwynhau hawliau, cyfrifoldebau a chyfle cyfartal. Er enghraifft, y Deyrnas Unedig oedd un o'r gwledydd cyntaf i gyflwyno deddfwriaeth yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil, ac mae gennym bellach un o systemau mwyaf blaengar y byd. Fodd bynnag, dylai fod ffyrdd eraill heblaw deddfu i fynd i'r afael ag anghyfiawnder a gwahaniaethu, ac mae hynny wedi digwydd.

'Gwella Cyfleoedd, Cryfhau Cymdeithas' yw strategaeth tair blynedd y Llywodraeth i wella cydraddoldeb o ran hil a chydlyniad cymunedol. Daw â mesurau ymarferol at ei gilydd ar draws y Llywodraeth i wella cyfleoedd i bawb ym Mhrydain – gan helpu i sicrhau nad yw ethnigrwydd na hil pobl yn eu rhwystro rhag llwyddo. Mae'n nodi bwriad y Llywodraeth i roi mwy o bwyslais ar bwysigrwydd helpu pobl o wahanol gefndiroedd i ddod at ei gilydd, cefnogi pobl sy'n cyfrannu i gymdeithas a sefyll yn erbyn pobl hiliol neu eithafol.

Mynd i'r afael â thlodi a chaethwasiaeth gyfoes

Caiff nifer o broblemau, gan gynnwys caethwasiaeth a llafur caeth, eu hachosi neu eu gwaethygu gan dlodi. Mae un o bob pum person yn y byd heddiw, dros un biliwn o bobl, yn byw mewn tlodi ar lai nag un ddoler y diwrnod.

Mae'r DU wedi dyblu ei chyllideb cymorth er 1997, ac yn 2005, bu bargen hanesyddol i ganslo dros $50 biliwn o ddyledion amlochrog gwledydd tlawd. Defnyddiodd y Llywodraeth ein llywyddiaeth o'r G8 a'r Undeb Ewropeaidd yn 2005 i ymgyrchu am ymrwymiad byd-eang newydd i wyth 'Nod Datblygu'r Mileniwm' y Cenhedloedd Unedig i:

  • haneru nifer y bobl sy'n byw mewn eithafion tlodi a newyn
  • sicrhau bod pob plentyn yn derbyn addysg gynradd (lansiwyd menter 'Addysg i Bob Plentyn' y Llywodraeth yn ddiweddar, gan addo buddsoddiad o £8.5 biliwn mewn addysg er budd deg miliwn o blant)
  • hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol a rhoi llais cryfach i fenywod
  • lleihau cyfraddau marwolaethau plant
  • gwella iechyd mamau
  • trechu HIV ac Aids, malaria ac afiechydon eraill
  • sicrhau y caiff yr amgylchedd ei ddiogelu
  • adeiladu partneriaeth fyd-eang ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes datblygu

Mae'r DU yn ymrwymedig i gynyddu ein cyllideb ddatblygu i 0.7% o'r incwm gwladol gros erbyn 2013, gan ganolbwyntio ein hadnoddau ar y gwledydd tlotaf – yn enwedig yn Affrica Is-Sahara a De Asia – a gweithio mwy mewn gwledydd â llywodraethau sy'n wan neu'n methu. Darparodd y Llywodraeth dros £1 biliwn i gefnogi lleihau tlodi yn Affrica y llynedd.

Plant

Mae plant yn arbennig o agored i niwed o ran cam-drin eu hawliau dynol. Mae'r Llywodraeth yn bryderus iawn bod plant yn dal i gael eu recriwtio a'u defnyddio mewn gwrthdaro arfog, fel milwyr y rheng flaen, yn ogystal ag mewn swyddogaethau ategol (e.e. porthoriaid, cogyddion, caethweision/'gwragedd'). Mae Prydain yn weithredol iawn o fewn cyrff y Cenhedloedd Unedig o ran cefnogi ymdrechion rhyngwladol i ddiweddu'r arfer o ddefnyddio plant mewn sefyllfaoedd o wrthdaro. Drwy'r Adran Datblygu Rhyngwladol (ADRh), mae'r Llywodraeth yn darparu cefnogaeth uniongyrchol i asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig a'r Mudiadau Anllywodraethol sy'n mynd i'r afael â'r broblem hon, gan gynnwys £750,000 ar gyfer rhaglenni UNICEF yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo i ddiarfogi, dadfyddino ac ailintegreiddio plant a £500,000 ar gyfer ei rhaglen yn Sudan.

Mae addysg yn gam sylfaenol tuag at rymuso pobl i ddianc rhag tlodi ac ecsbloetio. Mae'r DU wedi ymrwymo i wario dros £8.5 biliwn i gefnogi Addysg i Bawb dros y 10 mlynedd nesaf. Mae Partneriaeth Ysgolion Fyd-eang yr ADRh yn hyrwyddo cysylltiadau rhwng ysgolion yn y DU ac ysgolion Affrica, Asia, y Caribî ac America Ladin gyda £7.5 miliwn o gyllid dros dair blynedd.

Caethiwo er mwyn talu dyledion a gwahaniaethu ar sail dosbarth

Caethiwo er mwyn talu dyledion neu lafur caeth yw'r ffurf fwyaf cyffredin ar gaethwasiaeth gyfoes. Aiff gweithwyr tlawd heb dir i ddyledion gyda landlordiaid neu gyflogwyr oherwydd benthyciadau a gymerir i ddiwallu anghenion byw sylfaenol. Efallai y bydd rhaid i'r holl deulu weithio, y caiff dyledion eu trosglwyddo o rieni i blant neu y gwerthir y ddyled gan un cyflogwr i un arall. Un o nodweddion trawiadol caethiwo er mwyn talu dyledion yw ei berthynas gydag allgáu cymdeithasol a gwahaniaethu ar sail dosbarth. Mae rhaglen datblygu'r DU yn mynd i'r afael â'r materion hyn. Er enghraifft, yn India, mae'r ADRh yn darparu £27 miliwn dros naw mlynedd i Raglen Cymdeithas Sifil Ardaloedd Tlawd sy'n cyllido mudiadau cymdeithas sifil yn y 100 ardal dlotaf. Mae'r rhaglen hon yn mynd i'r afael â gwahaniaethu ac ecsbloetio pobl o grwpiau llwythol, Dalits (aelodau o'r dosbarthiadau is) a phlant. Yn Nepal, mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r Strategaeth Lleihau Tlodi genedlaethol sy'n cynnwys mesurau i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail dosbarth, ethnigrwydd a rhyw.

Masnachu mewn pobl

Mae'r Llywodraeth eisoes yn gwneud llawer iawn i fynd i'r afael â masnachu mewn pobl ac mae ganddi ddull gweithredu cynhwysfawr ac amlochrog sy'n cynnwys deddfu, cydweithredu rhyngwladol, gorfodaeth a chefnogaeth i ddioddefwyr y fasnach.

Sefydlwyd Canolfan Masnachu mewn Pobl newydd ar gyfer y DU ar 3ydd Hydref 2006 i barhau â gwaith llwyddiannus Pentameter (ymgyrch gan heddluoedd y DU i drechu masnachu er mwyn ecsbloetio rhywiol) a'r bwriad yw y bydd yn cefnogi, yn datblygu, yn cydlynu ac yn darparu ymateb heddlu'r DU i fasnachu mewn pobl. Nod arall y ganolfan yw darparu newid sylweddol yn y dull gweithredu ar sail hawliau dynol sy'n canolbwyntio ar y dioddefwr.

Ar hyn o bryd, mae'r Llywodraeth yn datblygu Cynllun Gweithredu'r DU ar Fasnachu mewn Pobl a fydd yn rhoi strategaeth gynhwysfawr i ni ar gyfer trechu pob ffurf ar fasnachu mewn pobl, sy'n ffurf fodern ar gaethwasiaeth. Mae'r Llywodraeth yn bwriadu lansio'r cynllun gweithredu yn y misoedd nesaf.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU