Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi cylchgrawn coffaol i gofio daucanmlwyddiant diddymu'r fasnach gaethweision.
Nod y cylchgrawn yw rhoi gwybod i aelodau'r cyhoedd am y fasnach gaethweision, y rhai a frwydrodd dros ei diddymu a'r broses ryddhau a ddilynodd yn ogystal â'r gwaith a wneir i fynd i'r afael â chamwahaniaethu ym Mhrydain a'r mathau o gaethwasiaeth sy'n dal i fodoli yn y byd sydd ohoni heddiw.
Dosberthir copïau i amgueddfeydd, llyfrgelloedd a mudiadau cymunedol lleol erbyn diwedd mis Mawrth. Mae modd archebu copïau am ddim hefyd drwy ffonio 0870 122 6236 a dyfynnu cod cynnyrch 06REU04476.
Mae copi electronig ar gael hefyd i'w lwytho oddi ar y we.