Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Coffáu yn 2008 a thu hwnt

Rhoddodd daucanmlwyddiant diddymu'r Ddeddf Masnach Caethweision gyfle unigryw i bobl Prydain fyfyrio ar hanes ehangach caethwasiaeth ar draws Môr yr Iwerydd, a'i ddiddymiad, ac ar y gwaith a wnaeth pobl gyffredin a gwleidyddion, ynghyd â Phrydeinwyr eraill, Affricaniaid a phobl India'r Gorllewin, wrth gynorthwyo i roi terfyn ar gaethwasiaeth.

Fodd bynnag, roedd ar y Llywodraeth eisiau sicrhau ein bod yn parhau i gofio'r bennod bwysig hon yn ein hanes ar ôl y daucanmlwyddiant a phenderfynwyd mabwysiadu Awst 23 fel y dyddiad penodol ar gyfer coffáu hyn yn genedlaethol. Mae nifer o ddigwyddiadau wedi'u cynllunio ar gyfer 2008.

Toussaint L'Ouverture

Mae'r diwrnod UNESCO yn nodi gwrthryfel y caethweision Affricanaidd yn Haiti, a oresgynnodd fyddinoedd Ffrainc a Phrydain dan arweiniad y cyn-gaethwas Affricanaidd Toussaint L'Ouverture. Dyma'r enghraifft gyntaf mewn hanes o ryddfreiniad cymdeithas gyfan. Caethweision Affricanaidd a sicrhaodd eu buddugoliaeth iddynt, a gobeithiwn bwysleisio hynny wrth ddewis y dyddiad hwn.


Gall grwpiau cymunedol wneud cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri, y Gronfa Loteri Fawr a Chyngor Celfyddydau Lloegr am gefnogaeth ar gyfer prosiectau treftadaeth sy'n gysylltiedig â'r coffáu.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU