Website of the UK government

Please note that this website has a UK government accesskeys system.

Public services all in one place

Main menu

Sunday, 22 November 2009

Awgrymiadau ar arbed ynni   

Mae'r ynni a ddefnyddir mewn cartrefi yn gyfrifol am dros chwarter o holl allyriadau carbon deuocsid y DU, sef y prif nwy tŷ gwydr sy'n achosi newid yn yr hinsawdd. Bydd gwneud eich cartref mor ynni-effeithlon ag sy'n bosib yn lleihau allyriadau carbon a gallai hefyd arbed dros £300 y flwyddyn i chi ar eich bil tanwydd.

Y mater ehangach

Cynhyrchir y rhan fwyaf o'r ynni a ddefnyddiwn yn ein cartrefi drwy brosesau sy'n rhyddhau gollyngiadau CO2 i'r aer.

Gollyngiadau CO2 yw'r achos mwyaf sylweddol o newid yn yr hinsawdd, felly arbed ynni yn eich cartref yw un o'r pethau pwysicaf y gallwch eu gwneud i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Cefnogaeth ariannol i wneud i'ch cartref ddefnyddio ynni'n effeithlon

Darperir cymorth ariannol i wneud i'ch cartref ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon drwy'r Rhaglen Arbed Ynni yn y Cartref.

Hefyd, os ydych yn landlord ac yn gwneud gwelliannau i'ch eiddo i arbed ynni, gallech hawlio Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid a lleihau eich bil treth. Dilynwch y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth.

Inswleiddio’ch cartref

Mae bron i hanner o'r gwres mewn cartref nodweddiadol yn cael ei golli drwy'r waliau a'r to. Nid yw'r rhan fwyaf o gartrefi yn y DU wedi'u hinswleiddio i'r graddau a argymhellir, felly ystyriwch inswleiddio eich atig a'ch waliau ceudod.

Diffodd teclynnau yn hytrach na'u gadael yn y modd segur

Mae'r cartref cyffredin yn gwastraffu £30 y flwyddyn dim ond drwy adael offer yn y modd segur. Cofiwch:

  • ni allwch ddiffodd y rhan fwyaf o nwyddau electronig drwy ddefnyddio'r rheolydd pell yn unig
  • i ddiffodd offer yn gyfan gwbl, defnyddiwch y switsh pŵer ar y teclyn ei hun neu diffoddwch ef yn y plwg
  • os yw teclyn gwefru neu becyn pŵer yn gynnes neu â golau ymlaen, mae'n debyg ei fod yn defnyddio pŵer

Prynnu teclynnau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon

Gall un bwlb 20 wat arbed £60 i chi yn ystod ei oes o'i gymharu â bwlb 100 wat safonol

Mae offer ynni-effeithlon yn hawdd dod o hyd iddynt ac nid ydynt yn ddrutach o reidrwydd. Chwiliwch am offer sydd â'r labeli isod arnynt i arbed arian ac ynni:

Label Energy Saving Recommended
Mae'r teclynnau sydd â'r label Energy Saving Recommended arnynt ymhlith yr 20 y cant gorau sydd ar gael o ran effeithlonrwydd.

Label ynni'r Undeb Ewropeaidd
Dengys labeli ynni'r UE ar oergelloedd, rhewgelloedd a pheiriannau golchi dillad pa mor effeithlon ydynt o ran defnyddio ynni ar raddfa A i G. Gradd 'A' sydd fwyaf effeithlon a gradd 'G' sydd lleiaf effeithlon.

Gwneud eich system wresogi yn fwy effeithlon

Pe bai pob cartref yn y wlad yn gosod boeler tra effeithlon, byddai'r ynni a arbedid yn ddigon i ddarparu gwres a phŵer ar gyfer bron i ddwy filiwn o dai:

  • gallwch leihau hyd at 40 y cant ar yr ynni y defnyddia'ch boeler presennol os yw'n cael ei reoli gyda thermostat effeithlon a falfiau gwresogydd thermostat
  • gallai prynu boeler newydd effeithlon ddefnyddio traean yn llai o ynni na boeler sy'n 10 mlwydd oed

Awgrymiadau syml ar arbed ynni

Trowch y gwres canolog i lawr un radd i arbed 10 y cant

Mae nifer o ffyrdd o arbed ynni yn eich cartref.

Yn y gegin

  • wrth ferwi tegell, peidiwch â rhoi mwy o ddŵr nag y mae ei angen ynddo
  • gorchuddiwch botiau a sosbenni wrth goginio - byddant yn berwi'n gyflymach o lawer
  • sicrhewch eich bod yn dadrewi eich rhewgell yn rheolaidd ac nad ydych yn rhoi bwyd poeth yn y rhewgell
  • mae ymchwil diweddaraf yn dangos y gallech arbed ynni drwy ddefnyddio microdon yn hytrach na phopty confensiynol i gynhesu ychydig bach o fwyd

Golchi dillad

  • gall golchi dillad ar 30 gradd fod yr un mor effeithiol ar gyfer llwyth arferol
  • gwnewch yn siŵr bod gennych lwyth llawn cyn defnyddio peiriant golchi dillad neu beiriant golchi llestri
  • osgowch sychu dillad mewn peiriant - sychwch ddillad y tu allan neu dan do pan fo'n bosib er mwyn arbed arian ac ynni

Gwres a dŵr poeth

  • gallai troi'r gwres canolog i lawr un radd leihau hyd at 10 y cant ar eich biliau gwres
  • trowch tymheredd eich gwresogydd troch i lawr un radd - byddwch yn arbed ynni a bydd yn annhebygol y byddwch yn sylwi ar y gwahaniaeth

Goleuadau

  • defnyddiwch fylbiau arbed ynni - petai pob cartref yn y DU yn gosod tri ohonynt, byddai'n arbed digon o ynni i bweru holl oleuadau stryd y DU
  • ceisiwch gofio diffodd y golau bob tro pan fyddwch yn gadael ystafell

Access keys