Website of the UK government

Please note that this website has a UK government accesskeys system.

Public services all in one place

Main menu

Sunday, 22 November 2009

Diogelwch rhag tân yn y cartref

Defnyddiwch y canllaw hwn i asesu pa mor ddiogel yw'ch cartref rhag tân ac i gymryd mesurau diogelu syml a rhad a allai achub bywydau. Mae'n werth edrych ar bob ystafell yn eich cartref i weld a allai unrhyw beth achosi tân.

Cynllunio ymlaen llaw

Larymau mwg

Y cam symlaf y gallwch ei gymryd i leihau'r risg o farw yn sgil tân yn eich cartref yw cael larwm mwg. Maent ar gael mewn archfarchnadoedd ac mewn siopau stryd fawr. Os ydy'ch cartref yn cynnwys mwy nag un llawr, dylech osod o leiaf un larwm mwg ar bob llawr. Dylech wneud y canlynol:

  • gosod larymau mwg ar bob lefel yn eich cartref, ar y nenfwd, mewn cynteddau ac ar y landin
  • peidio â gadael i lwch gasglu arnynt a gwneud yn siŵr eu bod yn gweithio unwaith yr wythnos
  • ystyried prynu larwm deg mlynedd; neu fel arall dylid newid y batris yn eich larymau bob blwyddyn

Mae rhai gwasanaethau Tân ac Achub lleol yn gosod larymau mwg am ddim. Gallwch gysylltu â'ch gwasanaethau lleol i weld a ydynt yn rhedeg cynllun o'r fath

Byddwch yn ofalus â pheryglon a all achosi tân

Mae'n debygol bod eich cartref yn cynnwys sawl math o berygl a all arwain at dân. Efallai na fyddech wedi meddwl amdanynt yn syth, ond fe ddylech eu hystyried.

Dyma bwyntiau i’w hystyried o ran beth all fod yn beryglus:

  • ydy'r cadeiriau sydd gennych wedi eu gwneud o ddeunydd sy'n gwrthsefyll tân? Os cawsant eu gwneud cyn 1988, ni fyddant yn gwrthsefyll tân, ac mae hyn yn golygu y byddant yn mynd ar dân yn hawdd ac yn cynhyrchu cymylau o fwg gwenwynig
  • byddwch yn arbennig o ofalus yn y gegin (yn enwedig wrth goginio ag olew poeth) - damweiniau wrth goginio sy'n gyfrifol am dros hanner y tanau mewn cartrefi
  • cadwch eich popty'n glir rhag gwrthrychau fflamadwy, fel llieiniau, menig popty a'r llenni
  • peidiwch byth â gadael plant ifanc ar eu pen eu hunain yn y gegin
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn glanhau'ch tostiwr o bryd i'w gilydd (gall bara sydd wedi mynd yn sownd fynd ar dân) a gwnewch yn siŵr nad yw'n agos at y llenni
  • peidiwch byth â gadael canhwyllau ynghyn mewn ystafelloedd gwag nac mewn ystafelloedd lle mae plant ar eu pen eu hunain
  • sicrhewch fod canhwyllau'n cael eu rhoi mewn cynwysyddion diogel ar arwyneb nad yw'n llosgi, a'u bod yn ddigon pell oddi wrth unrhyw ddeunyddiau a allai losgi
  • sicrhewch fod sigaréts yn cael eu diffodd yn iawn a'ch bod yn cael gwared arnynt yn ofalus - peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely
  • os oes gennych flanced drydan, gwnewch yn siŵr nad oes difrod arni - os yw'n dechrau rhaflo, os oes marciau gwres arni neu os oes unrhyw ddarnau'n rhydd, gall hyn fod yn beryglus

Deunyddiau fflamadwy

Peidiwch â chadw deunyddiau fflamadwy fel toddyddion (fel rhai mathau o lud ac aerosolau) na pharaffîn yn llygad yr haul nac yn agos at unrhyw ffynhonnell arall sy'n rhyddhau gwres (fel gwresogydd). Os ydych chi'n defnyddio rhywbeth fflamadwy, gwnewch yn siŵr bod digon o aer yn yr ystafell yr ydych ynddi a pheidiwch â chynnau unrhyw fath o fflam gerllaw.

Tanau nwy a gwenwyn carbon monocsid

Allwch chi ddim mo'i weld, ei flasu na'i arogli, ond gall carbon monocsid (CO) ladd yn ddirybudd mewn mater o oriau. Dylech wneud yn siŵr bod eich teclynnau nwy a'ch ffliwiau wedi'u gosod yn briodol, eu bod yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda a'u bod yn cael eu hawyru'n briodol. Bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cyhoeddi taflen ynghylch gwneud yn siŵr bod eich teclynnau wedi'u gosod yn ddiogel a'u bod yn ddiogel i'w defnyddio. Mae'r ddolen isod yn eich tywys i fersiwn o'r daflen ar y we. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch hefyd yn cynnig Llinell Gyngor Diogelwch Nwy, y gallwch ei ffonio am ddim.

Ffôn: 0800 300 363

Lluniwch eich llwybr dianc

Dylech siarad â phawb yn eich cartref ynghylch sut mae dianc os ceir tân. Lluniwch gynllun dianc ar gyfer eich tŷ a rhowch nodyn atgoffa o'r hyn y dylech ei wneud yn rhywle y gellir ei weld yn hawdd ac yn rheolaidd - ar ddrws yr oergell, er enghraifft.

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybodaeth am sut mae llunio llwybr dianc ar gyfer eich tŷ chi.

Cadwch bob allanfa'n glir

  • dechreuwch feithrin yr arfer o gadw pob allanfa'n glir rhag rhwystrau er mwyn i bobl allu dianc os bydd tân
  • sicrhewch y gall pawb yn eich cartref ddod o hyd i'r allweddi ar gyfer y drysau a'r ffenestri'n hawdd - cadwch hwy yn yr un lle bob amser

Meithrin arferion da

Os byddwch yn cyflawni archwiliadau'n rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr bod eich cartref yn ddiogel rhag tân, bydd yr archwiliadau, mewn dim o dro, yn datblygu'n arferion, ac yn lleihau'r perygl o dân yn eich cartref. Dilynwch y ddolen isod i weld rhestr o awgrymiadau sydyn a phethau y dylech edrych arnynt. Gallwch hefyd lwytho taflen diogelwch rhag tân yn y cartref drwy ddilyn y ddolen isod.

Access keys