Website of the UK government

Please note that this website has a UK government accesskeys system.

Public services all in one place

Main menu

Bonws Nadolig

Mae'n bosib y gallwch gael Bonws Nadolig, y taliad untro di-dreth o £10 a delir cyn y Nadolig. Ar gyfer 2008, bydd taliad di-dreth ychwanegol o £60 yn cael ei dalu'n awtomatig i'r cwsmeriaid hynny sy'n cael budd-dal cymwys yn yr wythnos sy'n dechrau ar 22 Rhagfyr 2008. Bydd hwn yn cael ei dalu rhwng Ionawr 2009 a Mawrth 2009.

Pwy sy’n gymwys?

I gael Bonws Nadolig, rhaid i chi fod yn byw yn y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Gibraltar neu yn unrhyw un o wledydd Ardal Economaidd Ewrop, neu'r Swistir, a bod gennych hawl (oni bai eich bod yn gohirio eich Pensiwn gan y Wladwriaeth) i o leiaf un o'r budd-daliadau canlynol yn yr wythnos sy’n dechrau ar 22 Rhagfyr 2008:

  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Gyfraniadau
  • Lwfans Byw i'r Anabl
  • Budd-dal Analluogrwydd ar y gyfradd tymor hir
  • Budd-dal Marwolaeth Ddiwydiannol
  • Lwfans Gofalwr
  • Atodiad Symudedd
  • Credyd Pensiwn – elfen gwarant
  • Pensiwn y Wladwriaeth (yn cynnwys Pensiwn Graddedig)
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Atodiad neu Lwfans i'r Anghyflogadwy
  • Pensiwn Anabledd Rhyfel os ydych chi'n 65 oed neu'n hŷn
  • Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw
  • Pensiwn Gwraig Weddw
  • Lwfans Mam Weddw
  • Lwfans Rhiant Gweddw

Faint gewch chi?

Un taliad o £10 yw'r Bonws Nadolig. Ar gyfer 2008, bydd taliad ychwanegol o £60 yn cael ei dalu rhwng Ionawr 2009 a Mawrth 2009.

Os ydych chi'n un o bâr priod neu ddibriod neu bartneriaeth sifil a bod gan y ddau ohonoch yr hawl i un o'r budd-daliadau cymwys, bydd y ddau ohonoch yn derbyn taliad Bonws Nadolig ac, ar gyfer 2008, y £60 ychwanegol.

Bydd eich partner neu'ch partner sifil hefyd yn cael taliadau os yw'r ddau bwynt canlynol yn berthnasol:

  • mae'r ddau ohonoch dros oed Pensiwn y Wladwriaeth erbyn y dydd Llun cyntaf ym mis Rhagfyr (ar gyfer y taliad £60 mae angen i chi fod dros oed Pensiwn y Wladwriaeth erbyn 22 Rhagfyr 2008)
  • roedd eich partner neu'ch partner sifil hefyd yn preswylio yn y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Gibraltar, yn un o wledydd Ardal Economaidd Ewrop neu yn y Swistir yn yr wythnos lawn gyntaf ym mis Rhagfyr

a naill ai

  • bod gennych yr hawl i gynnydd mewn budd-dal cymwys ar gyfer eich partner neu'ch partner sifil

neu

  • yr unig fudd-dal cymwys rydych chi'n ei gael yw'r Credyd Pensiwn

Sut mae'n cael ei dalu

Fel arfer, telir y Bonws Nadolig yn syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'ch arian, anfonir siec atoch y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®. Ar gyfer 2008, bydd y tâl ychwanegol o £60 yn cael ei wneud yn yr un ffordd.

Yr effaith ar fudd-daliadau

Ni fydd y Bonws Nadolig na'r taliad £60 ychwanegol yn effeithio ar fonysau eraill yr ydych yn eu cael o bosibl.

Sut i wneud cais

Does dim angen i chi hawlio'r Bonws Nadolig na'r taliad £60 - fe'i cewch yn awtomatig. Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys i gael y taliad ond nad ydych wedi'i dderbyn, holwch yn eich Canolfan Byd Gwaith neu'r ganolfan bensiwn sy'n delio â'ch taliadau.

Additional links

Save Money
Save Energy

ACT ON CO2 to discover easy ways you can save money and energy

Don't get bitten...

Have you been approached by a loan shark? You can report unlicensed lenders

Access keys