Website of the UK government

Please note that this website has a UK government accesskeys system.

Public services all in one place

Main menu

Ynghylch Pass Plus

Cwrs hyfforddi yw Pass Plus wedi'i anelu'n benodol at yrwyr newydd. Mae ystadegau'n dangos bod gyrwyr newydd yn fwy tebygol o gael damwain yn y ddwy flynedd gyntaf ar ôl pasio'u prawf oherwydd diffyg profiad - a dyna ble mae Pass Plus yn camu i'r bwlch! Mae'r cwrs yn ceisio adeiladu ar eich sgiliau gyrru a'r wybodaeth sy'n newydd i chi.

Beth yw Pass Plus?

Cwrs hyfforddi yw Pass Plus wedi'i anelu'n benodol at gyrwyr newydd, a hwnnw wedi'i gynllunio gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) gyda chymorth yswirwyr a'r diwydiant hyfforddi gyrru. Bydd Pass Plus yn adeiladu ar y sgiliau a'r wybodaeth sydd gennych ar hyn o bryd, gan eich dysgu sut i ragweld pob math o beryglon, cynllunio ar eu cyfer ac ymdopi â hwy, ac fe all eich helpu i fod yn fwy hyderus ar y ffyrdd

Mae Pass Plus wedi'i rannu'n chwe modiwl ymarferol sy'n cynnwys:

  • gyrru yn y dref
  • gyrru ym mhob tywydd
  • gyrru ar ffyrdd gwledig
  • gyrru yn y nos
  • gyrru ar ffyrdd deuol
  • gyrru ar draffyrdd

Gall unrhyw un sydd â thrwydded lawn y DU gymryd rhan yn y cynllun. Ni fydd rhaid i chi sefyll prawf ar ddiwedd y cwrs ond fe gewch eich asesu drwy gydol y cwrs. Rhaid i chi gwblhau'r holl fodiwlau yn y cwrs i safon dderbyniol.

Faint mae Pass Plus yn ei gostio?

Bydd y ffioedd ar gyfer y cwrs Pass Plus yn amrywio yn ôl ble rydych chi'n byw ac ar yr hyfforddwr neu'r ysgol yrru y byddwch yn eu dewis. Dylech fod yn ymwybodol y bydd y cwrs yn para o leiaf chwe awr, ac os bydd angen mwy o sesiynau arnoch i gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, efallai y bydd hyn yn ychwanegu at y gost.

Pan fyddwch chi wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, fe'ch cynghorir i weld a oes gostyngiadau ar gael gan y cwmnïau yswiriant sy'n cymryd rhan yn y cynllun. Bydd yr arian y byddwch yn ei arbed yn dibynnu ar y cwmni dan sylw, ac efallai y gallech arbed mwy nag y bu i chi ei dalu am y cwrs hyd yn oed.

Am ragor o wybodaeth am Pass Plus, ewch i wefan Pass Plus drwy ddilyn y ddolen isod

Access keys